Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

trysorfa'r adroddwr. 71 YMDDIDDAN.-JOB. (I Saith.) pjfYMYDOG.—Dydd da, Job. Çlywais lawer o son am \è) danat fel dyn perffaith ac uniawn, un yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Clywais hefyd dy fod yn ddedwydd yn dy deulu, ac yn gyfoethog yn nâ y byd hwn. Job.—Rhaid i mi addef fod Duw yn ei ragluniaeth wedi bod yn dda wrthyf. Y mae genyf wraig a deg o blant— saith o feibion a thair o ferched. Y mae fy ngolud yn gyf- ansoddedig o saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum' can' iau o ychain, a phum' cant o asenod. Golchaf fy nghamrau âg ymenyn, a thywallta y graig i mi afonydd o olew Cymydog.—Cyfoeth mawr, a chynysgaeth dda i'th blant ar dy ol. Job.—I'm saith mab bydd genyf fil yr un o ddefaid, ac i'm tair merch fil yr un o gamelod ; ac os ôl-oesir fi gan fy ngwraig, bydd yr ychain a'r asenod iddi hithau. Cymydog.-—Rhagorol yn wir. Byddai yn anmhosibl i ti drefnu dy dŷ yn well. Deallaf hefyd, dy fod ar gyfrif dy gymeriad, a'th gyfoeth, a'th luaws rhinweddau, mewn an- rhydedd uehel gan dy gydwladwyr; mewn gair, mai ti yw y mwyaf, yn mhob ystyr, o holl feibion y Dwyrain. Job.—Nis gallaf achwyn ar y parch a delir i mi. Pan af allan i'r porth drwy y dref, pan barotòaf fy eisteddfa yn y porth, yr henuriaid a gyfodant ac a safant i fyny, tywysog- ion a ataliant eu hymadroddion, pendefigion a dawant a son, a bendith yr hwn sydd ar ddarfod am dano a ddaw arnaf. Cymydog.—Y mae genyt le i obeithio a disgwyl am bryd- nawnddydd tawel. Job.—Oes. Byddaf farw yn fy nyth, a bydd fy nyddiau mor aml a'r tywod. Fy ngwreiddyn a ymdaena wrth y dyfroedd, y gwlith a erys ar hyd nos ar fy mrig, fy ngogon- iant sydd îr ynof, a'm bwa a adnewydda yn fy llaw. Cymydog.—Gwyn dy fyd di Job; dedwyddolaf wyt yn mysg meibion dynion. A yw dy feibion yn debyg o rodio yn llwybrau eu tad ? Job.—Nid yw fy meibion yn bob peth y chwenychwn iddynt fod. Y maent yn rhy hoff o ddifyrwch. Cynaliant