Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

trysoefa'e adroddws. 229 CROESAWGÀN Y MISOEDD HYDREF, TACHWEDD, A RHAGFYR, Darn Vr Plant. yì R ol aneirif hleserau'r Haf, J^h, A'r gwala o wres ac o dywydd hraf, 'Hid chwith, blant olaf y flwyddyn faith, Eich gweled chwithau yn d'od ar daith, Daw'r byd o'i grwydrìadau yn ol rchcwrdd, Dis^yna i'w drefn, gostega'i dwrdd, Gafaela'n ei waith, daw^n gartrefol ei fryd, A .gwên boddlonrwydd siriola'i bryd, Y gadlas a'r ydlan gyfoethog draw, A'r pwyilog amaethon a saif gerllaw,— llbyw olwg orphwysol arnynt sydd, Ac edrych arnynt tawelwch rydd. Mae pawb mewn hamdden a hedd pryd hyn I roi i chwi groesaw, fisoedd syn. Mor hael o'i aur, mor gywrain ei law, Yw Hydref dawel a phrudd pan y daw! Ooreurá'n ddidrwst fyrdd myrddiwn o goed, Ddeilen 'rol dcilen, â'r aur tlysa' 'rioed, A lliwia'r lleìll â Uiwiau mor ddrud— Fe'u lliwia mor fedrus—nas gall y byd Ond pell ddynwared ei waith o hyd. •ürddasol Hydref, paham mae mor brudd 1 Ac mor hiraethus ei lais a'i rudd ? Paham y brefa'i ddeadell a'i gail ? Pa'm y cwynfana'i awelon a'i ddail ? Ai am fod yr Haf wedi myn'd, a bod Y Gauaf ystormus gerllaw yn d'od ? Ai ynte prudd ydyw, fel ambell ddyn, Heb reswm pa'm ond ei natur ei hun ? Beth bynag am hyn, ni a'i carwn ef— Fel llawer prudd arall geir is y nef !