Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

trysorfa'r adroddwr. 197 CROESAWGAN" Y MISOEDD. GORPHENAF, AWST, A MÉDI. Darn i'r Plant. fêTORPHENAF, fis brwd, l£T Toreithiog ei gnwd, Ac Awst ei frawd tesog a braf: Rhown groesaw yn glau 0 galon i'r ddau, A'u hyfryd gydymaith yr Haf. O'r misoedd i gyd Ymwelant â'n byd, Hwynt-hwy yw'r ddau oreu i ni. Digonedd o ddydd, A gwres yn.ei rudd> A ddygant, a lloniant yn lli. Bryd hyn cawn hir wyl 1 chwarau mewn hwyl, A'r ysgol mewn anghof dan glo ; Cawn grwydro 'n ddi rôl Hyd lechwedd a dôl, Ac yfed hyfrydweh y fro. Ehwng creigiau a grug, Hyd ochrau di ffug Hen gloddiau goludog y wlad, Cawn wledda'n ddi fry« Ar fwyar a llus, A bloeddio mewn hedd a mwynhad. A chawn heb wahardd Eoi tro trwy yr ardd, A bwyta o'i ffrwythau yn ffri: Y mefus a'r mafon, Yr eirin mair tirfion, A'r amryw bêr ryfon heb ri'.