Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ysorfa'r adroddwr. lö-: CROESAWGAN Y MISOEDD. EBRILL, MAI, A MEHEFIN. Darn Vr Plant, 'IL henffych i Ebrill! mil henffyeh i Mai! Llon feibion y Gwanwyn. Yn chwyrn ac yn ehwaí Ymlidiant y Gauaf dros dir a thros dòn, A gwisgant y ddaear â suit newydd spon. Cawn ninau, ond odid, wisg newydd yn braf I fyn'd gyda'r Gwanwyn i gwrddyd yr Haf; Cawn weled y dyddiau yn niyned yn fwy, A'r chware'n cynyddu o hyd gyda hwy. 0 croesaw i Ebrill! 0 croesaw i Mai! Ein galw wnant allan o gonglau y tai 1 rodio'r hen lwybrau mewn hoea ac mewn hedd, Ac yfed awelon y wlad yn y wledd, Bryd hyn y briallu a llygaid y dydd Wahoddant i'r meusydd y llawen a'r prudd, I edrych ar Fywyd a Chariad yn nghyd Yn gwenu heb gymhorth fíolineb y byd. Mor ddifyr fydd gwrando yr adar di-ri' Yn arllwys peroriaeth amrywiol yn lli! A gwel'd mor ddirgelaidd a phrydferth mae rhai Gyda mwsog a phlu'n adeiladu eu tai. Yn awr daw y wennol o'i chrwydrad yn ol I wibio a chanu twi twi mor ddi-rôl; A hithau y gog—wedi cwsg, " medda nhw "— A ddaw i'n dyddanu â'i hoesol gw-cw. Mehefin! Mehefin !~mae yntau yn d'od, A rhown iddo gynes groesawiad a chlod ; Mae ef yn fwy tyner nag Ebrill na Mai, A'i wên yn fwy twym, a'i gawodydd yn llai. ÍJfe wna i'r llwyni ymwisgo yn iawn, Efe wna i'r gerddi ymddangos yn llawn ; Eidegwch rydd yni i'r gwair ac i'r ŷd, A'i gusan a ddeffry y blodau i gyd.