Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tetsoefa'r adboddwe. 6t PWY YW HWN! ÍE. DDAETH Brenin nef ir ddaear, /**■ At ei ddeiliaid gwrthryfelgar; Dwr o'i adwaen, drodd i wrido, A dyg pysgod deyrnged iddo, Ond mae un, nad edwyn 'm'ono ! 0 pwy yw Hwn ! Ymgyferfyfd holl achosion Neí' a daear yn ei Berson; Trwy ei air, a dim ond hyny, Lladdodd bren—eg'uro'i allu, Er nad pren a haeddodd drengu ! 0 pwy yw Hwn ! Satan gwyd, a dyn, i'w demtio, Newyn tost, a syched arno ; Clywyd iddo newid gorsedd, Am dylodi, gwawd, a phoeredd— Tynu gelyn a thrugaredd! 0 pwy yw Hwn ! Pan yn newid gair â'r nefoedd, Tybia rhai mai taran ydoedd ; Ffrwyna'r bydoedd, a'r elfenau, Hêd ei fellt, ofnadwy folltau, Mewn, ac allan, yn ei ddyrnau ! 0 |>wy yw Hwn! Peidia'r gwynt, a'r môr a'u cyffro, Ar un amnaid fach o'i eiddo; Haint, a chlefyd, ffoaut rhagddo, A chythreuliaid, ffordd y cerddo, Ac mae'r meirw'n doffro iddo! 0 pwy yw Hwn ! Cerdda wyneb môr tymhestlog, At ei deulu, bychan, ofnog ! Daw i mewn, a'r drysau'n gauad, Llona'r galon, sycha'r llygad, Neu diflana ar amrantiad! 0 pwy yw Hwn!