Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tetsoepa'b adeoddwb. 37 YE ENETH AMDDIFAD. f^TLUSTYMWEANDEWCH a'm cwynion vJ Dosturiol wyr fy ngwlad, 'Ewy'n eneth dlawd ddigartref, Heb frawd na mam na thad, Na chwaer na pherthynasau, Gwael ac amddifad wyf, Yn crwydro ar y ddaear Heb wybod p'le mae'm plwyf. 'Ewyf dan drwm aethau chwerwon, Mewn galar dwfn bob dydd, A'm dagrau yn ddiseibiant A redant dros fy ngrudd ; Ehwng hiraeth a thylodi, Dan boenau tost yn byw, 'Does neb a wyr fy nghyflwr Ond fi fy hun a'm Duw. 'Ewy'n cofio'r aelwyd gynes, Lle ces fy magu'n llon, A'm hoff rieni tyner Heb brudd-der dan eu bron; Ond troes y rhod;—daeth twyllwr A'n heiddo aeth ar gam, A'r weithred erchyll hono Fu'n angau 'nhad a'm mam. Fe chwalwyd fy hen gartref, Fe'm bwriwyd ar y byd, A'r rhai a fu'n gyfetllion Grefnasant arna'i gyd; 'Does neb yn para^n ffyddlawn Mewn trallod ond fy Nuw, Am hyn mi bwysaf arno, Tad yr amddifad yw. b Clwydfaedd.