Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA'R ADRODDWR. BLWYDDYN NEWYDD. TBLWYDDYN arall yn lluddedig JíD Sydd yn marw'n llesg ac unig; Ac i hawlio ei gobenydd, Agoshau mae Blwyddyn Newydd. Mae eysgodion tragwyddoldeb Yn ymrithio yn ei gwyneb; Sylweddola'r mwyaf penrhydd Ysbrydolrwydd Blwyddyn Newydd. Careg fìlldir einioes eto, Dyma hi—a ninau heibio; Mae'r cyflymdra'n ddychryn beunydd Yn ngoleuni Blwyddyn Newydd. Ni ddaw un ochenaid chwerw Dros y flwjrddyn sydd yn marw; Trenga'n swn byddarol glodydd, I estronol Flwyddyn Newydd. Natur yn ei thrwmgwsg àyînaf, Sy'n mwynhau breuddwydion gauaf ; Ond yn sydyn, clyw aflon3rdd Udgyrn croesaw Blwyddyn New}Tdd. Cwsg ei hun sydd fel pe'n teimlo Mai dyledswydd bod yn effro ; , I gael dathlu mewn llawenj'dd Enedigaeth Blwyddyn Newydd. Pam mae'r byd yn llawenychu, Ac yn deffro'i glych i ganu ? Duw y nef yn unig wybydd Beth yw baich y Flwyddj-n Newydd.