Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HYSBYSYDD: §ytcÇQxaix>n §Çrvavtevoí CYLCHDÄITH l LLÄNRHÄIÄDR. CYF. XV|, RHIF 4. floast, fOcdi a Hydfeî, 1907. TREM AR HANES WESLEtAETH GYMREIG YN NGHROESOSWALLT. (Parhad o tu dal. 35, Rhif. 3.) Gan Mr. Samuel Davies, Glasfryn. )N y flwyddyn 1890, bu farw Mr. Thomas Griffiths, Bryn- hyfryd. Un o'm hen gyfeillion oedd Mr. Griffiths, dyn bach pert, bywiog ydoedd, ac yn Wesley selog. Bu yntau farw bron yn nghanol ei ddyddiau, pan ond 49 mlwydd oed, ac a gladdwyd yn Cemetery Oswestry. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. John Eyans (Eglwysbach). Mor wir y geiriau hyny o eiddo Job,—"Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul. Fel blodeuyn y daw allan, ac y torir ef ymaith ; ac efe a gilia fel cysgod, ac ni saif." Gellir enwi rhagor o'r rhai a fuont feirw ag oeddynt yn ddisgyblion ffyddlon i Iesu Grist, ag ydynt wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, sef, Henry Humphreys a'i wraig; John Jones (Savin); Edward Smith, Mrs. Davies, Y Bwlch; Mrs. Rees, Weston ; Ellis Jones, John Francis a'i wraig; Edward Èdwards, ac eraill. Yn Ionawr, 1893, yr ydym yn colli chwaer ag oedd yn bur amlwg a ffyddlon yn ein plith, sef, Mrs. Williams, gweddw y diweddar Barch. John Williams, a chwaer i Miss Jones, Park, ac nis gallaf wneyd yn well na darllen rhan o'r ysgrif a ymddang- hosodd yn yr Hysbysydd am Mai, 1893. Fel hyn y dywed yr ysgrif hono mewn perthynas à Mrs. Williams :—" Wedi ei gadael yn weddw, dychwelodd Mrs. Williams i wlad ei genedigaeth, a sefydlodd gyda ei mham a'i chwaer yn Nghroesoswallt, lle y treuliodd y deuddeng mlynedd diweddaf o'i hoes. Yr oedd Mrs. Williams yn wraig rinweddol iawn; oes gymharol fèr a gafodd yn y byd hwn, ond prydferthwyd ei hoes fèr gyda rhinweddau a grasau y gwir fŷwyd crefyddol. > Chwaer ddistaw a gwylaidd ỳdoedd,—ond rhoddodd* braẃfion diamheuol o onestrwydd ei