Skip to main content

DIRWESTYDD DEHEUOL. " Hir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei Uaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant."—Solomon. Rhif. 12.] AWST, 1841. [Pris 1g. BARNU DIRWEST WRTH EÍ HEFFEITHIAU. Parhad o du-dal. 123. Ar y cyntaf nid oedd y dychweledigion ond ychydig nifer, a'r rhai hyny wedi eu hennill trwy ddylanwad Mr. Matthew gyda'r bobl gyffredin, ymddiried pa rai oedd yn feddiannol gatiddo yn barod, o herwydd ei Iwyddiant gweinidogaethol; orid trwy yr ymwellhad dirfawr oedd wedi cymmeryd lle yn iechyd y rhai a ymwrthodent â'r ymarferiad o'r gwirod meddwawl, fe dybiwyd gan y werin fod rhyw allu goruwch- naturiol gan Mr. Matthew i iachau pob math o glefydau, ar yr ammod iddynt ymuno â'r gymdeithas a gefnogai. Dyma y uerthydd a ysgogodd y gymdeithas, ac a gynhyrfodd ei Ilẁyddiant dechreuol. Yn y dyddiau yma y crynhôdd y cloffion, deillion, byddarion, gwywedigion, a phob rhai drwg eu hwyl, i Cork, er derbyn y pledge, ac mewn canlyniad er mwynhad iechyd. Mr. Matthew yn uniongyrchol a wnaeth eu camsyniad yn hyddysg iddynt, ac a osododd y gymdeithas i sefyll i fynu ar ei theilyngdod ei hun; ond er ei holl ym- drechion i'w didwyllo, credant y dydd heddyw fod y pledge gweinyddiedig ganddo ef (Mr. M.) yn rhagorach mewn eff'eithioldeb i un gweinyddiedig gan ereill. " Yr ydwyf fì," medd yr audwr y cyfeiriasom ato eisioes, " wedi ymholi à llawer o lwyr-ymwrthodwyr ar y pen hwn; eu hatebiad unfrydol oedd, Yrydym yn ymwybodus â meddwon o'r cym- meriadau iselaf wedi eu llwyr-ddychwelyd trwy fyned i Cork; dynion agoeddynt wedi diystyriol wrthwynebu yr apelion di- frifolaf oddiwrth eu hoffeiriaid cartrefol, wedi tori'r ymrwym- iadau dwysaf a gwirfoddol a gyflawnasant rhag diìyn mwyach eu hymarferiadau gwarthruddol; am hyn y mae yn ddewis- acl» genym i drafaelu can milldir i Cork i gymmeryd y jiledge ganddo ef, nac aros gartref, a'i chymmeryd gan ryw un arall.