Skip to main content

Y ^ DIRWESTYDD DEHEUOL. "Hír-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant."—Solomon. Rhif. 5.] IONAWR, 184«. [Pris 1g. PWY YF GWRW YN HWY? Cafodd fy nhad ei anrhydeddu â rhieni crefyddol a duwiol iawn ; barn páwb yn eu cymtnydogaeth am danynt oedd, os oedd dyuion duwiol yn yr eglwys y perthynent iddi, eu bod hwy felly—-máethent eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Hyfryd oedcl yr olwg ar éu tr'i phlentyn a hwy- thau, ÿh' làn, yn harcld, ac yn brydlawn yn y cyfarfodydd a'r ysgol bob Sabboth ; gweddient yn y teulu hwyr a boreu, dywedent lawer wrth eu plant am wylio bob amser, rhag i unrhyw beth fod yn foddion i'w tỳnu i nivved, goficl, a gwarth, megys eyfeillion a chyfeillachau drwg, a'r cyfîelyb. Ystyrid eu plant y prydferthaf eu bucheddau o holl ieuenctyd y gymmydogaeth—dim llŵ na rheg, dim gair drwg am neb, diiu canu anllad, na dim o'r fath i glywed o'u geneuau hwy' Ijyth yh uri man ; gan nad pwy fyddai yn nghymdeithasau ìlygredig y gymmydogaetn, nid hwy fyddai yno—yr oedd rfau o'r tri dan faner crefydd cyn eu bod yn un-ar-byiritheg oed, a thrwy drugaredd, yn addurn i'w proffes hyd heddyw. Fy nhad oedd yr henaf o'r plant, yr oedd yntau gyda chref- ydd hefyd cyn ei fod yn gwbl ddeunaw oed, a ehafodd y fraint o rodio yn addas i'r efengyl am flynyddau. Priododd yn y flwyddyn' 18—1 a merch i dyddynwr o gymmeriad parchus yn y gymmydogaeth, yr hon hefyd oedd gyda chref- ydd er pan yn ieuanc iawn, ac aethant i fyw i bentref yn Llan------, yn swydd-------------'; cawsant bedwar o blant, o bá rai, myfì ydyw yr henaf. Cawsant hefyd wenau Rhag- luniaeth yn hir, mewn gair, nid oedd un teulu yn yr ardal yn ol eu sefyllfa yn fwy cysurus nâ hwy—cadwent eu lle yn rheol- aidd iawn gyda chrefydd, hyd nes i un Mr. B------, gwr tra chyfrifol fel tyddynwr, ac yn ddiacon yn yr eglwys, lle y'r oedd fy nhad a'm mam yn aelodau y pryd hwnw, i fyned ýii fragwr, a thra yr oedd tŷ a phethau ereill tuag at fragu yn cael eu parotoi, rhoddodd tafarn-wraig yn ypentref ei thý a'i