Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. » Cçfres Iftewçöö Xlanbeör. YN NGWYNEB HAUL A LLYfiAD GOLIUNI. "A GAIR DUW YN ÜCHAF.' Rhifyn 103. AWST 15, 1907. Cyf. IX. SIARS V GWIR BARCHEDIG JOHN PRITCHARD HUGHKS, D.D., ARGLWYDD ESGOB LLANDAF. Fy Mrouyr Llen a Lleyg,— Mae yn awr bedair blynedd er pan ymgyfarfu Esgob Llandaf o'r blaen a ì Esgobaeth. Cynaliodd fy rhagflaenor hybarch, i'r hwn y cyfodir cofadail deilwng heb goll amser yn yr Eglwys Gadeiriol hon, ei Ymweliad diweddaf yn '1903. Cymerais inau arnaf faich gofal yr Esgobaeth Mehefin laf, 1905, a gelwir arnaf ar ddechreu fy nhrydedd flwyddyn mewn swydd i gynal fy Ymweliad cyntaf. CYNADLEDD YR HAG. Credaf y gallaf yn briodol ddechreu gyda chyfeiriad at bwnc sydd yn awr yn atdynu sylw yr holl fyd gwareiddiedig—pwnc gafodd sylw y Cynghor Cynrychiolaethoi Eglwysig yn Llundain yn ddi- weddar—a phwnc eill ddal perthynas agos a ffyniant dyfodol a ded- wyddwch y wlad hon a'r byd. Cyfeiriaf at y Gynadledd Heddwch, lle'r ymgyferfydd cynrychiolwyr bron pob cenedl wareiddiedig yn awr yn yr Hâg. Wrth feddwl beth olyga rhyfel, nid yn unig o ran y trueni, a'r dioddefaánt, a'r tywallt gwaed sy'n dilyn, a'r dyryswch a'r dinystr sy'n goddiweddyd masnach a thrafnidiaeth, eithr y camwri wneir a'r egwyddorion Cristionogol—cariad, tosturi, a chydystyriaeth rhwng dyn a dyn—y chwerwder, y casineb, a'r drwg- deimlad a grea ac, vsywaeth, a fythola—nis srallwn lai na dy- chrynu wrthfedrìwl beth ddigwyddai pe torai rhyfel allan yn y dy fodo!. A phan v clywir. fel y clywsom eisoes, ga-n rai ddylent wybod, pe digwyddai rhyfel Ewropeaidd mawr ar hyn o bryd, a hvny allai ddigwydd pe ceid ychydig mwy mewn cymhariaeth o 20—ix.