Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

338 YR HAUL, oll i'r un teimlad trwy lesu Gríst ein Har- glwydd. Amen. CAN O ALARNAD, Am ymadiwiad y Parch. D. Bowland, Curad Llandudoch, Llantood, a Moning- ton gynt, lle y bu yn ffyddlaion yn ei wasan- aeth a?n gwmpas i 5 mlynedd o amser. Mae Llandudoch yn hiraethlon, Am ei Churad ffyddlon gwiw, David Rowland, parchus, doniol, Mwynaidd, siriol, serchog, syw; Mae'r Eglwysi oll yn cwynfan, Y plwyfydd hwythau'n griddfan sydd, Am yr Áthraw hoff serchoglon, Cywir cysson yn y ffydd. O'r! fath wylo oedd yn Llantood, Pan aeth sibrwd trwy'r holl Lan, I fod Rowland yn ffarwelio,— Yn ymadael â'i hoff fan; Ym Monington 'r oedd wylo yn hidì, Mawr yw'r golled gafodd hon, Teimla'r gynnulleidfa barchus 'Nawr yn glwyfus bawb o'r bron. Yn Llandudoch oedd och'neidio, Aeth yn wylo trwy'r holl le, Pan yn anerch ei gyfeillion, Agos at ei galon e; O'r Parchedig Uon cyfeillgar, Pwy mor ddengar ag efe, P'le ceir eto ag ef cystal, Un mo'r hawddgar is y Ne'. Meistr Rowland, tyner galon, Hoff gan ddynion yw ei wedd, Boneddigaidd yw ei deimlad, Llawn o gariad pur a hedd; Tanllyd ydyw fel pregethwr, Gwych areithiwr hyfryd dwys, Ei ddysgeidiaeth sydd mor eglur, Llawn o synwyr mawr ei bwys. Per blanigyn o Baradwys, Cymhwys un yn Sion Duw, Ydyw y parchedig uchod, Hynod lawn o rinwedd yw; Enwog yw yn yr arfogaeth, Dan lywodraeth teyrnas gras, Cadarn yw mhlith cedyrn Israel, Pwy mo'r ddiogel ar y ma's. Un o feibion dwys y daran, Ydyw Rowland mwynìan gwiw, Gwyliwr effro, gweithiwr medrus, Campus ddyn yng ngwinllan Duw; Athraw addfwyn gostyngedig, B'le mae tebyg iddo'n bod, Enwn ef ym rnhlith enwogion, Goreu ddynion dan y rhod. Bendith Nefoedd a'i canlyno O swydd Benfro i Bembre, Ysbryd sanctaitld Duw a'i cadwo Ef, rhag gwyro cam o'i le: Dyma yw dymuniad lluoedd Drwy ein cylchoedd oll o'r bron, Lle mae ef yn adnabyddus, Ac yn agos iawn i'n bron. Ffarwel-ffarwel, fab dyddanwch, Mawr yw'r tristwch yma sydd, Gwedi'ch colli, 'r ŷm yn gweled, Faint ein colled 'iaawr bob dydd; Byd yw hwn, o alarnadau, Tristwch a gofldiau blin, Ni cheir ynddo un melusder Na bo chwer'der wrtho'ng nglyn. Gobeithiwn byddwch, Syr, yn fenditb, I drigolion plwyf Pembre, Ac y bydd eich gweinidogaeth 'N adeiladaeth ddwys i'r lle; Gobeithiwn hefyd er eich symmud, Dewch ar fyrder i roi tro, I Llandudoch a'i chyffiniau, Lle y byddwch byth mewn co'. 'Nawr terfynwn mewn dysgwyliad, Am eich hc-ff ymweliad llon, Unwaith eto cyn eich claddu, Obry yn y ddaiar gron; A gobeithiwn cawn gydgwrddyd, Ar dir gwynfyd tu draw'r bedd, A cyd-seinio'r anthem nefol, Bythol yng Nghaersalem hedd. R. 3. Llandudoch. ARALL ETO. Planhigyn hardd yng ngwinllan Duw, Yw Rowland gwiwlan hawddgar; Blodeuyn per, godidòg llon, Llawn o olygon traiddgar. Mor felus odiaeth yw ei ddawn, A llawn o addurniadau, Ei lais sydd o bereiddiaf sain; A chywrain yw mewn geiriau. Mae hoff ddylanwad yn ei wedd, Mae'n llawn o rinwedd dynol, A'i serch a'i deimlad at bob dyn, Sef, y cyffredin bobol. Dymunwn i'r Parchedig gwiw, Fod Ysbryd Duw'n ei dywys, A'i wneyd fel seren ddysglaer wen, Yn ffurfafen yr Eglwys. R. J. HYNAFIAETHAU CYMREIG. VI. MON. Oddeutu pedair milltir o Beaumaris, gyda glan y Menai i'r Dwyrain-ogledd, saif Prior- dy Penmon. Fel yr oll o adeiladau crefyddol, y mae mewn man ffrwythlawn a phrydferth; yn ei ymyl y mae maes (park) helaeth wedi ei gyssegru i rifedi o geirw. Ymae Penmon yn hynod am ei wneuthuriad cyssylltiedig o