Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE HAÜL. CYFRES NEWYDD. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 40. EBRîLL, 1853. Cyf. IV. YR EGLWYS YN YR YSPAEN.* 3f^£ Yspaen yw y wlad ryfeddaf yn Qn y byd, o ran rhagoriaeth ei hin- sawdd, manteision ei sefyllfa, ac am- rywiaeth, toraeth, a rhywiogrwydd ei chynnyrchion. Nid yw yn llai rhy- fedd ô ran ei hanes, yn ei chodiad dísymmwth i awdurdod, yn ehangder yr awdurdod hwnnw, yng nghyfoeth ei threfedigaethau, yn Hwyrdeb ei hysgariad oddi wrthynt, ac yn adfeil- iad cyffredinol ei dylanwad ym mhlith cenhedloedd Ewrop. Wrth gipolygu y map, ymddengys fel wedi ei gwneuthur i feddu llyw- odraeth gyffredinol. Y mae wedi ei gorchuddio ar dair ochr gan y môr, ac ar y bedwaredd gan fynyddoedd y Pyrenees, y rhai ydynt wrthglawdd auoresgynadwy, os amddiffynir ef yn fywiog ; ymddengys fel yn meddu awdurdod ar Ddeheubarth Ewrop, tra yr erys yn amddiffynedig gan y myn- yddoedd a'r moroedd. Y mae hyd yn oed ei ffurf yn meddu cynnwysdra ymerodraeth; y mae bron yn ysgwar (a chynnwys Portugal) o chwe chan milldir bob ochr, a chynnwys bob amrywiaeth o arwyneb o ddaear, myn- ydd a dyffryn, cymmwys i bob math o gynnyrchion Ewropaidd a'r gwledydd poethion, a phob hinsawdd, o oerder laehus y gogledd i ardymheredd bod- yglyd mwil y dehau; ei chanolbarth yn wlad wastad yn ymgodi i dair mil ° droedfeddi uwch y môr; a'r wlad wastad honno yn cynnwys bron harmer arwyneb Yspaen; ac fei hyn trwy un 0 drefniadau naíur, neu yn hytrach rhagluniaeth, yn rhoddi iddi nerth adíywiol awyr gyffelyb i'n gwlad ein */The Praclical Working of the Church of 1 TÎ.W / !,he„Rev- Frederick Meyricfc, M.A. ■i vol. Oxford, Paiker. hunain. Y mae maintiolaeth cyfan yr Yspaen yn oddeutu 185,000 o fill- diroedd ysgwar, neu gymmaint ddwy- waith ag arwyneb yr Ynysoedd Bryt- anaidd, ac etto nid yw y tir anferthol, ft'rwythlawn a gwych hwn, yn cynnwys ond poblogaeth o ddeng miliwn o en- eidiau ! Unwaith yn arglwyddes ar Germaní, Itali, a'r Iseldiroedd, y mae yr Ys- paen wedi eu colli hwynt i gyd; un- waith yn arglwyddes ar wledydd aur ac arian y Byd Gorllewinol, y mae yr Yspaen wedi eu colli hwynt i gyd ç unwaith yn arglwyddes ar gadwyn o drefedigaethau, heb eu cyft'elyb yn y byd, coilodd yr Yspaen y cyfan o honynt oddigerth Cuba, a rhyw rai eraiil dienw, ac nid yw yii' dal y rhai hynny ond ar ammodau gwan c^d- wybod Amerícanaidd. Nid yw yr Yspaen byth wedi ymadnewyddu ar ol y ddyrnod honno a roddodd iddi ei hun yn amser y Spanish Armadal Ond â'r Eglwys y mae ein gwrth- ddrych presennol. Mae yr Yspaer» yn nodadwy ym mhob peth. Hi yw yr unig deyrnas fawr yn Ewrop s$7dd wedi cael ei llywodraethu yn ei holl gynneddfau gan yr Eglwys Babaidd. Ÿr offeiriad sydd wedi bod yn ym- ddiiiedwr mawr yr awdurdod Ys- paenaeg. Mae y cyífeswr wedi cym- nieryrt lle a swydd y cynghorwr. Mae y mynach wedi bod yu benadur y ìlywodraeth, swyddog y chwil-lys wedi bod yn arglwydd ei chrefydd ; mae y wlad yn un fynachlog fawr, a'ì phobìogaeíh, yn gyffelyb i'r heidiau a ymdyrrant wrth byrth mynachlog, yn gymmysgedd o'r cardottyn a'r ymddi- ofrydydd dallbleidiol. Medodd yr Egíwys gynhauaf euraidd yn y dydd- iau ìiynny, ym mhlith y bobl dlottaf