Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. CYFRES NEWYDD. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 37. EONAWR, 1853. Cyf. IV. Y CYFAMMOD HEN A'R CYFAMMOD NEWYDD, NEU EGLWYS YR HEN DESTAMENT, AC EGLWYS Y TESTAMENT NEWYDD. 3^ tîtíl£ cyfrediad y ddwy oruch- Qn wyliaeth ag y mae Duw Holl- alluog gwedi eu sefydlu ar y ddaear ym mhlith, ac at wasanaeth y teulu dynol, yn bwugc nad oes nemawr o ysgrit'enwyr gwedi ei gymmeryd dan eu sylw, er ei fod yn deilwng o'r ystyriaethau difrifolaf, am ei fod yn í'aes helaethlawn i lofía tywysennau oddi arno, ac i gasglu ynghyd lawer o fyfyrdodau arno ; a chan fod y pwngc yn ddiweddar wedi tynnu sylw yr ys- grifenydd, y mae yn ostyngedig yn cyfleu y casgliad canlynol o flaen dar- llenwyr yr Haul. Wrth ddechreu ar y pwngc hwn, yr ydym yn anocheladwy yn cael ein cludo yn ol drwy oesau a chenhedlaethau, hyd yr amserau boreuol draw, pan ag y gosododd Moses, deddfwr Israel, y Babell fynu wrth droed Mynydd Sinai yn yr anialwch, ar y dydd cyntaf o'r ail flwyddyn gwedi Ecsodus y llwythau etholedig o'r Aipht, yn y flwyddyn o oed y byd 2514. Hyd yn hyn, neu hyd y cyfnod newydd hwn yn hanes crefydd, yr oedd addoliad y Brenhin tragy wyddol, Creawdwr y nef a'r ddae- ar, gwedi bod yn deuluol, yn cael ei gyflawni gan y Patrieirch boreuol o un i'r llall hyd at Jacob tad deuddeg llwyth yr Israel. Yr oedd tad pob teuíu, nid yn unig yn bennaeth ar y teulu, ond yn Otfeiriad yn gweinyddu mewn pethau crefyddol yn y teulu, megis oifrymmu aberthau i'r Duw Gor- uchaf, fel cysgodau iawnol i droi dig- ter y Duwdod heibio, ac i attal ei farnedigaethau rhag syrthio ar y bobl am ac oblegid eu camweddau. Ac yn y cyfwng y cyfeirir atto yn bresennol, gelür dywedyd bod Eglwys ym mhob teulu, a bod y teuluoedd, y naill a'r llall o honynt, yn addoli un Duw Je- hofah, yn eu ffyrdd eu hunain, gan nad oedd datguddiad gwedi ei roddi ar y pwngc. Yr oedd gosodiad y Babell fynu yn yr anialwch, yn ddechreuad cyfnod newydd, a Moses, gwas yr Arglwydd, a ddeí'nyddiwyd fel offeryn yn ei law ef, i osod fynu yr Eglwys gyhoeddus gyntafar y ddaear, ac i sefydlu dull o addoliad y gofynid i holl drigolion y ddaear i uno âg ef. Gwir yw mai deuddeg llwyth Israel oeddynt flaenaf; hwynt hwy elwid gyntaf i fwynhau y breintiau, a'r addewidion, a'r darpar- iadau a gynnygid i ddynol ryw ; ond. nid ydoedd cylch tosturiaethau, tru- gareddau, a darpariadau Duw, i'r Is- raeliaid yn unig; canys yr oedd y cenhedloedd hefyd yn cael derbyniad i'r Eglwys hon, ac yn cael mwynhau llawer o'i breintiau, sef y Proselytaid. Yng nghyfansoddiad yr Eglwys Iu- ddewig, yr oedd Tad y trugareddau gwedi gofalu am y cenedl-ddyn ag fyddai yn nhir Israel; yr oedd iach- awdwriaeth i hwn yn gystal ag i'r Iuddew. Y mae pedwarydd gorchym- yn llech gyntaf y ddeddf foesol yn dangos gofal Duw am ycenedl-ddyn; ' Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw : na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasan- aethferch, na'th anifail, na'th ddieühr ddyn a fyddo o fewn dy byrth.' Gwa- herddid i Israel wneuthur caethion o Israeliaid ; ond caniatteid iddynt wneud caethion o'r cenhedloedd ; a'r caethion hyn, sef dìeithriaid o blith y cenhedl- oedd, ydoedd y gwas, neu ' dy wasan- aethwr, a'th wasanaethferch, a'r dieithr ddyna fyddo o fewn dy byrth.' Nid oeddynt o Israel, ond yn cyfanneddu yng ngwlad Israel, a thrugaredd Duw