Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 126. RHAGFYR, 1845. Cyf. X. Y DIWEDD ANNEDWYDD. [A ail-gyfansoddwyd o Leuad yr Oes am y flwyddyn 1828, ar ddymaniad neilíduol rhai o Weinidogion y Wesleyaid.] Ganed Emma, yr eneth bryd- weddol a llon, pan ydoedd natur yn ei gweniadau mwyneiddiol wedi agoryd dorau yr haf, ychydig cyn i gerbyd yr haul esgyn uwch caer y dwyrain, er ymlid ymaith y gwyll, a gwasgaru ei belydron iachusol dros y gwledydd, ac ymlid ymaith y caddug a orchuddiai yr annedd, Ue y preswyliai y cymmeiriaid cariadus a wneid am yr unig dro yn dad a rtiam ; a pha rai hefyd a deimlent eu calonnau yn orlawn o ddiolch- garwch i dad tirion y trugareddau, am ddwyn o hono i gyfyngder yr esgoreddfa, ac am arbed o hono fywydau yn y cyfyngder mawr hwn, ag yr aeth miloedd o ferched Efa o hono i'r byd mawr tragywyddol. Oddiwrth yr olygfa ydoedd ar natur pau gymmerodd yr amgylch- iad hwn le, gallesid casglu nad oedd ond y dedwyddwch mwyaf yn aros yr ymwelyddes ieuangc hon yn y fuchedd bresennol; y llu asgellog, yn y llwyni a'r gwigoedd cyfagos, a gydleisient eu cathlau mewn peror- iaeth hyfrydol; ffrydiau yr afon a gydgymmysgent eu sî a'u dwndwr â brefiadau yr ŵyn ar y ddol feillion- og ar ei glann ; a'r rhosynnau teg a'r blodau amryliw a ledent eu dail 2 Y ar Iwybrau yr ardd, ac oeddynt megis yn gwenu yn y llawenydd cyffredin, ac yn derbyn yr eneth yn eu gwisgoedd goreu. Ond nid wrth dorriad y wawr y mae barnu am ansawdd yr hin yng nghorph diwr- nod; nid wrth amgylchiadau bo- reuoí y mae penderfynu am helynt- ion noswylio ; ac nid ar rwyddineb y llong yn ymollwng i'r weilgi y mae daroganu ei llwyddiant i gyr- haeddyd pen y daith. Felly hefyd, nid wrth unrhyw ymddangosiadau allanol, ffafriol neu anffafriol, y mae daroganu mewn perthynas i helynt- oedd neb a enir i'r byd sydd yr awr hon. Y mae wedi digwyddo yn fynych, fod llawer un a anwyd yng nghanol twrf taranau cryfion, a llewyrchiad tnellt tanbeidiol, wedi cael' tawelwch mawr i lithro drwy eu hoes ; ac eraill wedi dyfod i'r byd yn nhawelwch distaw natur, fel braidd y clywid trwst y dail yn ysgwyd yn yr awelon per, wedi cael mordeitliiau chwerwon iawn, o her- wydd cynhyrfiadau y tonnau gan y tymhestloedd. Ganed rhai yng nghanol dryghinoedd cynhyrfus y gauaf, a chawsant oes o haf dy- munol hyd oni ddisgynnasant i ddis- tawrwydd y gweryd; ac eraill a