Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 117. MAWRTH, 1845. Cyf. X. TRAETHAWD AR LWYDDIANT YR EFENGYL. ' Efengyl' ydyw y gair pereiddiaf a melusaf a seiniodd yng nghlnstiau plant dynion erioed ; mae ei accen fel y mel, a'i sain fel diferiad y diliau mel. Gair ehang ei gynnwys, ac yn awgrymmu daioni. Y mae y gair ' Creadigaeth' yn cymhell ar- nom hollalluogrwydd, doethineb, a daioni y Creawdwr mawr. Cread- igaeth a esgorodd ar sylweddau o ddiddym defnydd—neidiodd cyrph mawrion i fodoliaeth, o'r diddymdra tragywyddol, wrth amnaid yr Ew- yllysiwr mawr; ond Efengyl nid yn unig a efFeithia ar ymddifadrwydd o beth,ond ar wrthwynebrwydd hollol i'r peth. Y mae pellder a maint y cyrph mawrion a ymgrogant yn yr ehangderau fry, y cyfundraethau lliosog, ynghyd â threfnusrwydd cylchdroadau y rhod, yn dangos mewn llythyrennau breision ol bys- edd Duw Hollalluog ; y mae y pethau hyn a wnaethpwyd yn dangos ei dragywyddol allu ef a'i dduwdod, hyd onid ydyw pawb yn ddiesgus. Ond er esgyn o honom fel hyn i'r nefoedd, a phrysuro yn ein taith awyrawl drwy Systemau aneirif y ser sefydlog, hyd at derfynau cread- igaeth Duw, Duw o bell ydyw wedi y cwbl, ac nid o agos ; nis gallwn y ffordd hon, er chwilio, gael gafael arno—nis gallwn gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd. Y mae yn wir fod yma amlygiadau o rai o ber- ffeithderau yr Hanfod Ddwyfol; y pethau hyn yn uchel a'i pregethant. Braidd na ymrysona Jupiter gylchog a Sadwrn fodrwyog, a'r lleill o hon- ynt, ps un a ddengys fawredd ei Ẁneuthurwr fwyaf. Yng ngwyneb y gystadìeuaeth fawr, clywaf y belen ddaearol, ar ba un y cyfannedda plant dynion, er ei bod yn fecban ym mhlith miloedd yr wybren, yn croch-floeddio am ddistawrwydd, gan ddywedyd,'Gostegedholl gyrph yr ehangder mawr, a chlust-ym- wrandawent â'm geiriau, tra y my- negwyf iddynt yr amlygiadau a roddodd ein Gwneuthurwr raawr o hono ei hun ar fy nghlawr i. Mewn rhan o honof yn Asia draw, a elwir gardd Eden, yng ngwyneb anufudd- dod y dyu hwnnw Adda, cyhoedd- wyd addewid iddo, yn cynnwys am- lygiadau newyddion a dieithriol iawn, y rhai ni amgyffredwyd yn iawn y pryd hwnnw ; Had y wraig, efe a ysiga dy ben di, a thiihau a ysigi ei sawdí ef. Pan y clywodd y dyn ym mysg y preniau y geiriau melusion yn chwibanu i'w glustiau gydag awel y dydd, ymuniawnodd ei gefn, cryf haodd ei fferrau gweinion, gan dybied fod yuddynt ryw ddar- pariaeth i ddyn colledig. Yu yr amlygiad hwn nid oedd y Creawdwr mawr yn adnabyddus o'r blaen; yn