Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 116. CHWEFROR, 1845. Cyf. X. DOSPARTH YMARFEROL YR EGLWYS.—(0 tu dal. 373J Ymffrost Yraneillduaeth yn barhaus ydyw, mai ei chyfundraeth hi sydd yn gweithio gyda golwg ar leshad gwirioneddol, sylweddol, ac ysprydol eneidiau dynion ; a bod yr Eglwys, nid yn unig yn eu hesgeu- luso, ond yn amddifad o egwyddor i weithio er eu daioni. Pan ddeuir at y pwngc o weithio, daw yr Ym- neillduwyr yn uniongyrchol a'u sei- etau a'u cyrddau gweddi ger bron ; y rhai, y mae yn rhaid cyfaddef, sydd wedi cael eu gwneuthur yn bob peth ; ac y mae y dynion hynny ag ydynt a'u meddyliau yn gaeth- iwus yu Hyffetheiriau sectariaeth, wedi eu gwneuthur yn borth gogon- ìant—yn angenrheidiol anhebgorol i iachawdwriaeth. Bod y seiet wedi ei gwneuthur yn borth gogoniant sydd anwadadwy ; oblegid, os bydd dyn farw heb fod yn y seiet, am- mheuir ei gyflwr, cyfodir dwylaw, a dywedir y buasai yn well iddo fod ynddi, a'i fod heddyw yn gweled ac yn teimlo ei golled. Gyda goiwg ar gyrddau gweddi hefyd, y mae y rhai hyn wedi cael eu gwneuthur yn anhebgorion bywyd tragywyddol ; oblegid, er mwyn profi duwioldeb a dangos parch i grefydd, rhaid cael cwrdd gweddi i'r tŷ unwaith bob cwarter neu hanner blwyddyn ; ac os bydd bys gwr neu wraig y tŷ yn ddolurus, rhaid cael cwrdd gweddi; ac yn neillduol os bydd rhyw ddod- j refnyn newydd wedi ei brynu, rhaid j cael cwrdd gweddi neu gwrdd pre- geth i'r tŷ, er mwyn ei ddangos ì bobl y gymmydogaeth. Yn awr, gyda golwg ar y seiet y gwneir cymmaint o honi gan yr Ym- neillduwyr, nid ydyw, wedi y cwbl o'r dadwrdd a wneir yn ei herwydd, ond peth a gymmerwyd oddiwrth yr Eglwys, ac a ail-ffurfiwyd i wasan- aethu diben sectarol. Yn ol y Ru- bric, y mae pob ymgeisydd am Gymmundeb i siarad â'r Offeiriad, ac i gael ei holi ynghylch ei wy- bodaeth a'i brofiad ym mhethau Duw; ac os ceir boddlonrwydd ynddo, caniatteir iddo neshau at fwrdd yr Arglwydd, a chyfrannogi o'r Swpper sanctaidd gyda'r ffydd- loniaid. Oddiar hyn y mae y seiet wedi tyfu, a thyma ei gwreiddiau ; ond y mae yn rhaid cyfaddef ei bod, megis ag y mae yn ei ffurf bre- sennol ym mhlith y sectariaid, yn fwy cymmeradwy a phoblogaidd, gan anwybodusion a wnantiachawd- wriaeth a nefoedd braidd o bob dim ag sydd yn eu plith, ac a ddysgir iddynt gan eu hathrawon. Y mae yr Eglwys, gyda gwneuthur ei Gwei- nidogion yn ddynion gweithgar, wedi gofalu hefyd am gynnal awdurdod y , weinidogaeth yn ddihalog ; oblegid efe sydd flaenaf, ac i fod yn flaenaf,