Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. ♦ Cçfres IUwböö Xlanbeör. 'YN NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhifyn 87. MAWRTH 15, 1906. Cyf. VIII. NODION Y MIS. Llywodraeth y Mwyafrif Mawr.—Ni welwyd erioed Lywod- raeth yn hanes ein gwlad gyda mwy o fwyafrif wrth ei chefn, ac eto ni welwyd un erioed mewn hanesyddiaeth mor ddianrhydedd a gwaradwyddus ei gweithrediadau. Cyrhaeddodd ei safle bresenol trwy dwyllo y werin bobl, gyda chamgyhuddiadau yn erbyn y Weinyddiaeth flaenorol, a chydag addewidion gau bron dirif. Yn mhlith camgyhuddiadau cywilyddus ereill, darfu agos i bob ym- geisydd Radicalaidd haeru fod y Chineaid a ddygwyd i Ddeheudir Affrica trwy weithred Seneddol o eiddo yr Undebwyr raewn C3rflwr ofnadwy o gaethwasiaeth. Yr oedd parwydydd a muriau tref a gwlad wedi eu gorchuddio yn ystod yr Etholiad â darluniau o'r Chineaid yn Ne Affrica yn dihoeni mewn cadwynau. Prif destyn siarad y rhai sydd yn awr mewn awdurdod ydoedd y pwnc llosgawl hwn, a chondemniasant yn llym a chryf yr hyn a wnaed gan y Toriaid creulawn. Ond wedi dyfod i swydd, y maent wedi cyf- newid. Canfyddant nad oedd gwaith eu rhagflaenwyr mor ddrwg a du ag y lliwiwyd ef; gadawant i bethau fyned ymlaen heb fawr gyfnewidiad. Ond yr hyn sydd wedi taflu anfri bythol a staen gondemniol ar y Weinyddiaeth ydyw, nad oes neb o'r aelodau wedi cydnabod ei fai mewn geiriau plaen—yn hytrach, y mae rhai o honynt wedi ceisio taflu gorchudd tyllog dros eu twyll, er mai cloff neillduol oedd eu hymgais. Yr unig un ddarfu ymylu ar wneyd iawn am y drwg a wnaed ydoedd Arglwydd Elgin, Ysgrifenydd y Trefedigaethau, a hyny yn Nhŷ yr Arglwyddi. Am Is-ysgrifenydd y Trefedigaethau, yn Nhŷ y Cyffredin, sef Mr. Winston Churchill, yr oedd ei esgusawd yn waeth na chyfaddefiad. Dywedodd fod yr aelodau o'i blaid ef a ddefnyddiasant y cyhuddiad o " gaethwas- iaeth," yn euog o " terminological inemctitude "—dau air o un sill 7—viii.