Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

156 YRHAUL." Yn y fìwyddyn 1865, dyrchafwyd ef gan yr Arglwydd Ganghellydd i fywiolaeth Llandudoch, gyda'r plwyfi cydiol, Llantood a Monington, ar larwolaeth y Parch. H. J. Yinceut—yr hwn oedd yn hanu o deulu Anghydffurfiol arall—ac a ddaliodd y bywioliaethau am ddeugain mlynedd ond un. 0 ran ei allan ddyn, yr oedd gwrthrych ein hysgrif yn dál, gwallt du, yr hwn oedd yn britho pan ddaethom ni gýntaf i'w adwaen, gwynebpryd hytrach yn chwerw, ac yn dwyn arwyddiou penderfynol a gwrol. Yr oedd, megys Aaron, yn llefarwr croew, ac ynganai ei eiriau gydag eglurdeb unigol, fel yr oedd ei ddarlleniad yn unig yn tynu sylw Ar adegau dyrchai ei lais gyda phereidd-dra, nes difyr-swyno ei wrandawyr. Yn ymarferol, fynychaf, y pregethai, a dywedir fod min ar ei frawddegau pan yn trin dyledswyddau. Yr oedd yn wr pur ei foes, uchel ei chwaeth, a choeth ei barabl. Ni ferwinid yr un glust gan ei ymadroddion dethol- edig ef. Er i Mr. Jones fyned i'r Eglwys GydfFurfiol, myned yno yn unig a wnaeth o ran ei gorff; nid aeth yno erioed o argyhoeddiad egwyddorol, nac o ddedwyddwch personol. Yn adeg ei arosiad yn Llandudoch, mynych y cyfeillaehai â'r Hybarch Daniel Davies, Aberteifi. Diwrnod angladd y diweddaf, pan, er garwed yr hin, yr oedd tyrfa wedi ymgynuü i hebrwng gweddillion un o arwyr oedranus y pwlpud i fynwent neillduedig y Ferwig, Mr. Daniel Jones oedd un o'r ddau offeiriad fu yn gweinyddu. Uchel iawn oedd syniad Mr. Jones am dano. Eglurodd hyn yn amlwg y nos Sul cyntaf wedi ei gynhebrwng, trwy bregethu pregeth angladdol iddo yn L-glwys Llandudoch, pan oedd yr ideilad yn orlawn. Wele ' beth newydd dan haul' ! Preiíeth angladdol i weinidog Anghydffurfiol yr yr Eglwys Esgobaethol ! Traddodwyd tair pregeth angladdol ar ol Mr. Daniel Davies. Clywsom y tair, y rhai oedd yn wir dda, ond pregeth Mr. Jones oedd y ragoraf. Nid rhyfedd hyn ; yr oedd ef yu hynach, ac vvedi cael amgenaeh mantais a chyfleusdra amlach i iawn adnabod ei wrthrych na'r ddau bregethwr arall, y rhai ar y pryd oeddynt wỳr ieuainc. Y nos Sabbath hirgofiadwy hwnw, ei destyn oedd Daniel vi., a rhan o'r 22 aduod : ' Oherwydd puredd a gaed ynof ger Ei fron Ef.' Brawddeg gyntaf ei bregeth oedd : ' Y mae y geiriau hyn wedi cael eu ilefaru gan Daniel Beltesassar, ond nid wyf yn myned i siarad dim am dano ef heno, ond am wrthyrch llawn mor deilwng, sef ei gyfenw Daniel Davies, Aberteifi.' Gwelwyd yn y bregeth hono ei fod yn iawn ddeall teithi meddyliol a nodweddion cymeriadol ei gyfenw. Yn ei bregeth dywedai : ' Chwi a wyddoch fy mod i wedi bod yn by w yn mysg y bobl yma, ac y mae yn naturiol i chwi feddwl fod genyf serch mawr tuag atynt.1 Brawddeg arddangosiadol o'r hyn a grybwyllasom yn barod, mai gyda ei ben Enwad yr oedd gwir hoffder ei galon. Gwir yw hyn am bob un sydd yn gadael ei enwad, a myned at enwad arall, gan nad pa enwad fydd ; ond nid oes ond ychydig mor onest a Mr. Jones i amlygu ei fawr serch at yr Enwad yr enciliodd oddiwrtho. Tua thair blynedd ar ddeg y gweinidogaethodd Mr. Jones yn yr Eglwys Sefydledig. Anmharwyd ei ieehyd, a bu am tua blwyddyn yn dihoeni, nes ar y 18fed o fÌ8 hafaidd Mehefin, 1868, cafodd ollyngdod o wlad y cystudd i'r wlad lle y gwobrwyir y gwas da. Claddwyd öi ddaearol dŷ yn mynwent blwýfol Llandudoch, a chanfyddir man ei feddrod tu cëfn i'r Eglẅys, >ac