Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. M êi\îm (Cmrfiîrìèin. 'yng ngwyneb haul a llygad goleuni.' 'a gair duw yn uchaf.' PiHIFYN 149. MAI, 1897. Cyf. XIII. ADGOFION AM DDEUGAIN MLYNEDD O'M GWEINIDOGAETH. Rhan II FY NGHURADIAETH GYNTAF. 1. Hon oedd curadiaeth Badyr, yn agos i Landaf, i'r hon y cefais fy urddo yn y fl. 1853. Pedwar ugain punt oedd fy nghyflog, at yr hyn yr ychwaneg- odd Mr. Booter, perchenog gwaith haiarn Pentyrch, ddeg punt arall, am i mi symmud y gwasanaeth Cymreig i Tynant, ger Pentrepoeth, lle y preswyliai llawer o'i weithwyr. Ystyrid fy fìcer, y Parch. Ganghellydd Williams, yr hwn oedd hefyd yn fìcer Bassaleg, lle y preswyliai, yn gryn getyn o Gymreig- ydd, ac efe oedd yr arholwr yn y Gymraeg i'r Esgob Ollivant. Ei briod oedd chwaer i'r Parch. Horatio James Thomas, ficer Pentyrch, yr hwn y ceir rhai crybwyllion am dano yn fy ' Adgofion' (tud. 18), ac ain yr hwn y darllenir hanesyn neu ddau ychwanegol ym mhellach ym mlaen. Dim ond unwaith y bûm yn ymweled â'm ficer yn Bassaleg, ond nid wyf wedi anghofio yr olygfa hyfrydlawn ym Mharc Tredegar a welid o ffenestri ei ficerdy. Dyma y man prydferth lle y preswylia yn awr fy hen gyfaill anwyl, y Parch. John Jones, B.D., ficer presennol Bassaleg, yr hwn oedd un o'm cyfeillion mynwesolaf pan yn y coleg. Gyda llaw, daeth i'm cof yn y man hwn dôn fywiog ^awn a fyddwn i ac yntau a'i frawd, Morgan Jones a Mr. Edward Jones, cyfeillion gwresog i mi oll, yn ganu gyda'n gilydd o dan yr arcaäe yn y eoleg. Yr oedd myn'd yn y dôn hòno. Yr oedd fel pe bai wedi cael ei chymhwyso i'w chanu ar y geiriau, ' God moves in a mysterious way,' &c, ar y rhai y canem hi bob amser. Mae genyf rith gof mai ei henw oedd 'Anglesea,' ond nid wyf yn sicr o hyny. 9—xiii. Dechreua â'r nodau F, A, C, F, sef trwy redeg i fyny yr wythawd. Am nad wyf lawer o gantor, nis gallaf roddi amgenach dysgrifiad o honi. Yn awr, er mwyn yr amser a'r cyfeillion hyny gynt, yr wyf wedi ym- drafferthu llawer iawn i ddyfod o hyd i'r hen dôn anwyl hòno, ac wedi methu yn llwyr. Os geill rhywun ei chael hi allan a'i danfon i mi, byddaf yn barod i bentyru diolchiadau ar ei ben. 2. Pulpud bach cyflëus dros ben oedd hwnw osod- odd Mr. Booker i mi yn yr ystafell-gymdeithas [club-room) yn Tynant, lle y cynnelid y gwasanaeth Cymreig. Yn hwnw y dechreuais bregethu o'r frest, fel y crybwyllais gyda chryn lawer o ymffrost a gor- foledd yn fy ' Adgofion' (tud. 25); ac yn hwnw y darfu i mi dori i mewn amryw weinidogion ieuainc i bregethu eu pregethau cyntaf, o leiaf fel gweini- dogion ein Heglwys. Yr oedd o fewn i dair milltir i Landaf, ac felly byddwn ar y cyfan yn tori un i mewn bob nos Sul y cynnelid urddiad arno. Yn y pulpud hwnw, ynte, y traddodwyd eu pregethau cyntaf gan y diweddar Barchedigion James Morris, ficer Cwm, ger Rhyl; John George, ficer Aberper- gwm ; a Daniel Jones, ficer Llandudoch wedi hyny. Buasai pob un o'r tri cyn hyny yn bregethwr Ym- neillduol, a dyna y rheswm pa ham y byddent mor barod i ymgymmeryd â phregethu mor fuan ar ol cael eu hurddo. Clywais Mr. George ryw ddwy- waith wedi yr amser hwnw. Ymddangosai i mi ei fod yn ceisio gwneyd ei hun yn bregethwr hynod; gwnai ystumiau anghymmedrol a defnyddiai ym- adroddion Seisoneg yn aml. Clywais Mr. Daniel Jones yn pregethu amryw droion wedi yr amser hwnw, ac yn ddiweddaf oll yn fy hen Eglwys anwyl, Llanfihangel-ar-Arth, y flwyddyn cyn iddo farw. Yr oedd ar ei oreu y tro hwnw. Yr wyf o'r farn mai efe, o ran ei fater a'i ddullwedd o draddodi