Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

4 YR HAUL. * GBfree Hewçöö Xlanbedr. 'YN NGWYNEB HAUL A LLYOAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhipyn 117. TACHWEDD 16, 1908. Ctf. X. TEGID. Fbl y gallesid yn hawdd gasglu oddiwrth ei ganeoon prydferfch ' Llyn Tegid ' ac ' Ymweliad y Bardd,' brodor o'r Bala oedd Tegid, ac yno ger 'Môr mawr Meirion' y gwelodd gyntaf oleuni dydd ar y lOfed o Chwefror, 1792, a'r llyn hefyd roddodd fenthyg iddo ei enw barddol—Tegid. Ail fab ydoedd i Henry a Catherine Jones, a chan anwyled oedd yng nghyfrif ei rieni, fel, y gallasai ddweyd gyda Solomon, " Canys yr oeddwn yn fab i'm tad, yn dyuer ac anwyl yngolwg fy mam." O'r gychwyn cyntaf, cafodd y manteision addysgol goreu. Wedi bod am beth amser yn yr ysgolion elfenol oddeutu ei gartref, aeth yn y flwyddyn 1712 i Ysgol Rammadegol y Parch. D. Peters, Caerfyrddin, ac yno y dechreuodd ymgydnabyddu â chyfrinion yr ieithoedd clasurol. Yn y flwyddyn ganlynol symudwyd ef i ysgol y Parch. Thomas Price yn yr un dref, ac arosodd dan gyfarwyddyd a gofal y gwr hwnw am ddeunaw mis ; ac wedi dihysbyddu adnoddau yr ysgol hono dychwelodd yn ei ol i'r Bala. Fel y digwydd yn fynych yn hanes y rhan luosocaf o feibion dysg ac athrylith, mae bywgramad Tegid yn gynwysedig nid yn nhreigliadau y bywyd allanol ond yn helyntion y bywyd oddifewn— dadblygiadau galluoedd ei feddwl, yr ymdrechfeydd am oleuni a gwybodaeth, a'r dylanwadau distaw, cyfrin fu'n penderfynu cwrs ei fywyd, ac yn miniogi prif deithi ei gymeriad. Ac felly diangenrhaid manylu ar allanolion ei fywyd ym mhellach na nodi iddo gael ei dderbyn, ar y 13eg o Rhagfyr, 1814, yn aelod o Goleg Iesu, Rhydychain, ac wedi gorphen y tymhor arferol, iddo gael ei restru yn yr ail ddosparth yn Maihêmatia% a derbyn y radd o B.A. Fel mae'n wybyddus, mae llyfrgell y Coleg hwnw yn gyfoethog mewn hen ysgrif-lyfrau Cymreig, a chofnodion cywrain, a llyfrau prin, ac ymddengys, mai wrth droi a throsi y trysorau gwerthfawr hyn y dadebrodd chwilfrydedd llenyddol Tegid, ac y cynneuwyd y tân gwladgarol hwnw ar allor ei galon fu'n llosgi mor gyson a thanbaid hyd y diwedd. Gadawodd ar ei ol niferi o nodiadau sy'n dangos ei fod yn cwbl werthfawrogi y breintiau a'r manteision oedd yn ei gylchynu. Yn fuan wedi ymsefydlu ohono yn Rhydychain, fel y 31~X.