Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

4 YR HAUL. Cçfrcs iftcwsöö Xlanbeöc. "YN NGWYNEB HAUL A LLYGAD GQLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhifyn 115. MEDI 15, 1908. Cyf. X. RHAI ADNODAU ANHAWDD. Gan y Tra Pharchedig Ddeon Bangor. "Gwnewch i chwi gyfeillion o'r mammon anghyfiawn; fel, pan fo eisiau arnoch, y'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll."—S. Luc xvi. 9. Mewn trefn i ddeall ystyr yr adnod hon, angenrheidiol y w astudio y gwahanol eiriau a gynnwysir ynddi; ac hefyd ddangos ei chysylltiad â dammeg y goruchwyliwr anghyfiawn, i'r hon y gwasanaetha fel diwedd- glo. Gair Syriaeg yw Mammon, a'r cyfieithiad o honno ar ymyl y ddalen yw " golud." Ceir ef hefyd yn y bregeth ar y mynydd, lle y dywed ein Hiachawdwr, " Ni ellwch wasanaethu Duw a mammon." Golud a olygir yno hefyd. Paham y disgrifir ef yma fel yn " anghyf- iawn ? " Yn ol yr iaith wreiddiol, y mae felly nid o herwydd ei fod wedi ei gael neu ei gasglu mewn ffordd anghyfiawn. Weithiau y mae golud yn anghyfiawn yn yr ystyr hwn. Ac nid ychwaith o herwydd ei fod yn cael ei wario yn anghyfiawn. Gwneir hynny hefyd yn rhy aml. Ỳn hytrach, golyga yr ansoddair Groeg ei fod yn anghyfiawn yn yr ystyr o fod yn ansefydlog ac yn ansicr ; yn beth nas gellir dibynu arno. Ym mhellach ym mlaen yn y bennod, y mae Crist yn cyferbynnu y mammon anghyfiawn â'r gwir fammon neu olud. Wrth yr olaf golygir trysorau nefol, wrth y blaenaf trysorau daearol. Ac er fod golud daearol yn dwyllodrus ac ansicr, etto annoga ein Harglwydd ni i wneuthur cyfeill- ion o hono. Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion drwy y golud daearol agy mae Duw wedi ei roddi i chwi. A pha bryd y daw'r cyfeillion hyn-yn ddefnyddiol i'r rhai a'u gwnant? " Pan fo eisiau arnoch," ebe ein Hiachawdwr. At awr angau a dydd y farn y cyfeirir. Dyna adeg yr eisiau mawr, a ddaw ar bob enaid dynol. Er y palla cyfoeth ei hun ar yr awr gyfyng hono ; etto gellir ei ddefn- yddio yn y fath fodd ag i wneyd cyfeillion a'n derbyniant i'r tragywyddol bebyll. A pha beth ydym i olygu wrth "y tragywyddol bebylll" Nis gal fod ammheuaeth mai at drigfannau y nef y cyfeirir. . Nid yw'r trig- 25—x.