Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. iiì êrfim terfttrìinin. " YNG NGWYÎIEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIB DU¥ yn uchaf." Ehifyn 23. TAGHWEDD, 1886. Oyf. II. * SANT MAIE, CEFN, LLANELWY. Y mae yn ddywenydd genym roddi yn yr Haul am y mis hwn ddarlun o Eglwys newydd St. Mair, ym mhlwyf eang Llanelwy. Yr ydys gwedi awgrymn dro yn ol at y dymunoldeb o wneuthur yr Haul yn drysorfa hanesyddol o weithrediadau presennol yr Eglwys, a'i chyflwr presennol. Pe galluogid ni i roddi byr amlinell- iad bob mis o hanes un neu ddau o blwyfydd, ae ar yr un pryd gael darlun o'r Eglwysydd, byddai yn gaffaeliad gwerthfawr i'r oesau dyfodol, ae yn hanesiaeth ddydd- orol i'r oes hon. A gawn ni ofyn cynnorthwy offeiriaid yr amryw blwyfydd i gyflawnu y gwaith hwn ? Trwy garedigrwydd Mr. L. Jones, cawsom y bloch a'r def- nyddiau at hanes plwyf y Ehyl, a thrwy garedig- rwydd y Parch. D. Edwards galluogir ni i ddodi yr ysgrif a darlun presennol i mewn. Adeiladwyd yr Eglwys fechan brydferth hon yn y fiwyddyn 1863, a gellid edrych arni yn ei thegwch presennol fel Eglwys goffadwriaethol am y diweddar Col. Herbert Williams Wynn, brawd y diweddar Syr Watkin W. Wynn, a thad y Syr Watkin W. Wynn presennol. Yr oedd Col. Herbert W. Wynn gwedi rhoddi tir at adeiladu yr Eglwys ychydig amser cyn ei farw, ac wedi cyfranu at yr adeiladu, a chymmeryd rhan fiaenllaw yn y gwaith o gasglu at y draul; ond cyn dechreu ar y gwaith cymmerwyd ef ymaith, a pheuderfynodd y pwyllgor droi yr Eg- lwys yn un goffadwriaethol o'r cymmwynaswr cyntaf a osodasai ei law ar y gwaith o'i ehynllunio. Casgl- esid trwy danysgrifau tua 1400p. Ym mysg y 41—ii. EGLWYS SANT MAIR. tanysgrifwyr yr oedd y Dr. Short, esgob haelionus Llanelwy, yr hwn a roddai gan punt at adeiladu pob Eglwys newydd a gyfodid yn ei esgobaeth. Bu yn esgob Llanelwy o'r flwyddyn 1846 i 1870, sef pedair blynedd ar hugain; ac y mae yn ffaith gywir iddo roddi holl gyflog neu gyllid {in- comé) ei esgobaeth trwy yr amser at adeiladu Eglwysydd, adeiladu a chynnal ysgolion, ac at elusenau ereill o bob math. Fel at Eglwys- ydd ereill, rhoddes yr Esgob Short gant punt at adeiladu Eglwys St. Mair. Ehoddes Col. Herbert W. Wynn, Duchess Northumberland, Lady Willoughby de Brook, Mrs. Lloyd, Mrs. Howard, a Syr Hugh Williams, bob un hefyd ei gan punt; a daeth y diweddar Syr WatMn Williams Wynn ym mlaen gan roddi 1500p. i orphen y gwaith yn deilwng goffadwriaeth o'i frawd. Y peth mwyaf hynod yn perthyn i'r adeilad ydyw y fedyddfan. Grwneir hi o fynor gwyn Carrara ar lun angel yn dal gylfgragen (scattop-shett) yn ei freichiau. Cymmer- wyd y cynllun oddi wrth gyffelyb waith yn Copen- hagen, a gwnaed y cerfwaith gan Stein. Ehodd Syr W. W. Wynn ydyw, a gallai mai trwy gyssyllt- iad Lady Williams Wynn â Uys Denmark y caed gafael ar y cynllun. Neillduwyd dwy drefddegwm, sef Meiriadog a'r Wigfair, allan o blwyf Llanelwy, i berthyn i Lan Fair. Cynnwysa 2850 o erwau, a gwerth ardrethol o 3366p. ls. 3c. Yr oedd Col. Herbert W. Wynn a Mrs. Williams Wynn wedi adeiladu Ysgoldy Genedlaethol gyflëus at wasan- aeth yr ardal hòno er y flwyddyn 1858, ac y mae