Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

322 YE HAUL. i fri buan yma. Edward y Cyffeswr, tua'r flwyddyn 1065, a adeiladodd y rhan gyntaf o'r adeilad pre- sennol. Ailadeiladwyd bron yr oll gan Henry III. rhwng 1220 a 1269; ychwanegwyd corff yr Eglwys dan Edward L, yr hwn a orphenwyd dan Henry V. Tynwyd Capel Mair i lawr gan Henry VII., ac adeiladwyd y capel presennol, yr hwn a elwir Capel Henry VII., yn ei le. Dechreuwyd adeiladu y tyrau gorllewinol dan Henry VII., a gorphenwyd hwy yn ol cynllun Christopher Wren dan Greorge I. a George II. Pan oedd y fynachlog hon yn ei blodau yr oedd ganddi diroedd lawer yn Sussex, Middlesex, a manau ereill. Perthynai iddi abad, prior, is-brior, a phed- war ugain o fynachod. Ar ddadymchweliad y myn- achdai a mynachlogydd trowyd Westminster yn es- gobaeth a'r fynachlog yn Eglwys Gadeiriol, ac iddi ddeon a glwysgor. Dan y Prenines Mari adferwyd hi drachefn i feddiant y mynachod Benedictaidd. Ond pan esgynodd Elisabeth i'r orsedd, ac y troes y llys drachefn o blaid y Diwygiad, adferwyd deon a glwysgor i'r fynachlog, ond heb esgob, ac unwyd Coleg neu Ysgol Westminster â hi, ac felly yr erys hyd eto. Y mae deon Westminster yn arglwydd cyflawn arno ei hun. Nid oes gan esgob Llundain nac un esgob arall un awdurdod Eglwysig yn Westminster. Ehan neu weddill ydyw hyn o hen annibyniaeth y mynachlogydd. Yn ol y trefniadau presennol y deon yw y pen, ac y mae iddo chwech o ganoniaid yn gydweithwyr ag ef. Perthyna i'r fynachlog hon urddas breninol a chenedlaethol. Yn wir, cysgoda ynddi ei hun yr oll sydd barhäus, yr oll sydd freiniol, rhinweddol, a gwladgarol. Yma y coronwyd holl freninoedd Lloegr, o ddyddiau William y Gorchfygwr (1066) hyd yn awr, a hyny er teyrnasiad Edward I. ar y " Maen Ffawd" {fatal stone) Scone, a ddygwyd gan y brenin ymladdgar hwnw o Scotland. Yma hefyd y cleddid breninoedd Lloegr am oesoedd lawer, sef o ddyddiau Henry III. hyd ganol teyrnasiad Sior III. Yma hefyd y claddwyd Chaucer, tad y beirdd Seisnig, yn amser Edward IV. Pan ddeffroes yr awen Seisnig yn íflam angerddol yn nyddiau Elisa- beth daeth llwch yr hen fardd yn anrhydeddus fel bedd y prophwyd, a dechreuwyd claddu y beirdd enwocaf ynddi. Buan yr ychwanegwyd atynt ys~ golheigion enwog yr oesoedd, y gwroniaid dewr- wych, a'r prif wleidyddwyr gwasanaethgar, fel erbyn hyn y mae yn y gladdfa urddasol yr oll sydd enwog a mawreddus yn ein plith. Nid llai enwog ydyw yr hen fynachlog hanesiol am ei deoniaid dysg- edig a'i chanoniaid clodfawr. Digon enwi y Deon Stanley a'r Canon Parrar ar hyn o bryd. ACHOSION Y DYCHWELIAD AT BABYDD- IAETH YN NHEYENASIAD MAEL (ParMd o dudal. 302.) Crybwyllwyd yn rhifyn Medi fod y bobl yn du- eddol i'r Babaeth, a chyfeiriwyd at orseddiad Mari fel prawf. Ac nid dygwyddiad sydyn oedd hyn. Parhasent am flynyddau felly. Yn y flwyddyn 1549 yr oedd y deyrnas agos i gyd mewn terfysg. Tor- asai gwrthryfel agored allan mewn amryw ardal- oedd. Mae'r cwynion a osodid allan yn swyddi Devon a Chernyw ar gael eto, a'r rhan fwyaf o hon- ynt ar bynciau Eglwysig. Dymunent " ar fod i'r hen wasanaeth a seremoni'au gael eu hadferu, a'r newydd gael eu diddymu, gan eu bod fel Christmas game; fod i ddeddf y chwech erthygl a phenderfyn- iadau y cynghorau cyffredinol gael eu rhoddi mewn grym, fod i'r Beibl yn Saesoneg gael ei wahardd, a bod i bregethwyr wedd'io dros yr eneidiau yn y pur- dan." Drachefn yn y flwyddyn 1550 ysgrifenai Hooper at Bullinger, Chwef. 5, "Mae y bobl, modd bynag, yr angenfil amryw-beniog hwnw, yn gwingo eto; drwy anwybodaeth mewn rhan, ac mewn rhan wedi eu swyno gan hudoliaeth yr esgobion, a malais ac annuwioldeb yr offerenwyr" (mass-priests). Ac ar farwolaeth Edward ysgrifenai Julius Teren- tianus hanes y dygwyddiadau at John ab Ulmes, Tach. 20, 1553, gan ddysgrifio yr ymgáis i osod Jane Grey ar yr orsedd. Dywed am Mari, " Cyfododd agos yr holl genedl i'w chynnorthwyo, yn gyntaf pobl Norfolh a Suffolk, ac yna holl swyddi Ehyd- ychain, BucMngham, Berts, ac Essex." Felly amlwg yw mai nid rhyw ddygwyddiad dam- weiniol ydoedd dychweliad y wlad at Babyddiaeth. Gosodwyd Mari ar yr orsedd gan y bobl, ac oddi gerth iddi adferu y Babaeth gorphwysai o dan sar- hâd anghyfreithlondeb ei genedigaeth. Yr oedd yn amlwg, gan hyny, i'w chefnogwyr beth fyddai y canlyniad. Yr oedd y wlad yn addfed.