Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. Crçfra ẁrftjrìèfo. YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DÜW YN ÜCHAF." Rhif. 151. GORPHENAF, 1869. Cyf. 13. GENESIS I. A SALM CIV. Mae Llyfr y Salmau yn cynnwys amryw gyfeiriadau helaeth at hanes foreuol y genedl Iuddewig. Mae amryw salmau cyfain yn cynnwys math o ailadroddiad barddonol o hanes y genedl yn yr Aipht ac yn yr anialwch. Ond yn y bedwaredd salm ar ol y ganfed, mae yr awdwr ysbryd- oledig yn cymmeryd golygiad lled fanol ar agos holl waith y chwe' diwrnod y cawn hanes am dano yn y bennod gyntaf o Lyfr Genesis. Mewn gair arall, mae'r salm hon yn cynnwys esboniad barddonol ar y bennod hòno. Yr wyf yn bwriadu dangos hyn i raddau yn y traethodyn canlynol. Ac fe fydd cymhariaethiad y salm â'r bennod yn fwy dyddorol pan gofiom mai yr un Dwyfol Ysbryd ag oedd yn ymsym- mud ar wyneb y dyfroedd yn y greadigaeth chwediwrnodol oedd yr Ysbryd a ys- brydolodd y Salmydd i ganu ei esboniad barddonol ar yr hanes. Mae'r salm dan sylw yn un o'r salmau priod i Wasanaeth Dydd y Salgwyn. Dewiswyd hi gan yr Eglwys i'r perwyl sanctaidd hwn, am ei bod, megys mewn drych a thrwy ddammeg, yn portreiadu gweithrediadau'r greadigaeth newydd ac ysbrydol yng Nghrist Iesu trwy ddylan- wadau goruchwyliaethol Glân Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ar Ddydd y Pentecost a syrthiodd mewn dull mor wyrthiol ar y dysgyblion. Wrth olrhain y gymhariaeth rhwng y bennod a'r salm, ni a gymmerwn ein cychwyniad, yn y gwahanol adranau neu erthyglau, o'r salm ei hun, gan wneuthur, wrth fyned ym mlaen, gyfeiriadau at y bennod; hyny yw, ni a gymmerwn ein safle edrychiadol yn y salm; ac o'r safle manteisiol hwn ni a wnawn ein cyfeiriadau at y bennod. (1.) Adn. 2. "Yr Hwn wyt yn gwisgo 25—XIII. goleuni fel dilledyn." Y goleuni ydoedd creadur cyntaf y chwe' diwrnod. "A Duw a ddywedodd, Bydded goleuni; a goleuni a fu."—-Gen. i. 3. Nis gall dim fod yn fwy goruchel barddoniaeth na dywedyd fod goleuni yn wisg neu ddilledyn i'r Goruchaf, yr hwn sydd yn trigo yn y goleuni nas gellir dyfod ato. Mae yr Hollalluog, wrth wisgo'r goleuni am dano, "yn gwisgo gogoniant a harddwch" (adn. 1), sef yn ymwisgo mewn gogoniant hardd ac ardderchog. (2.) Adn. 2. "Ac yn taenu'r nefoedd fel Uen." Cyfeirir yn amlwg yn y geiriau hyn at Gen. i. 7, "A Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen â'r dyfroedd oddi ar y ffurfafen." Ac ebai Duw yn Esai xlv. 12, " Myfi, îe, fy nwylaw I a estynasant y nef- oedd." Ac yn Esai xliv. 24, "Myfi yw'r Arglwydd sydd yn estyn y nefoedd fy Hunan." Mae'r gyffelybiaeth hon wedi ei chymmeryd oddi wrth y dull y byddid yn taenu lliain ar bolion i fod yn babell, yr hyn oedd, ac sydd eto, yn beth hollol gyffredin yng ngwledydd yr Ysgrythyrau, fel y dangosir yn fwy eglur yn Esai xl. 22, " Yr Hwn a daena'r nefoedd fel llen, ac fel pabell i drigo ynddi" Ac y mae adn. 3 o'r salm yn golygu trigfod yr Ar- glwydd yn y cymylau dyfrllyd fry. " Yr Hwn sydd yn gosod tylathau ei ystaféUoedd yn y dyfroedd." (3.) Adn. 5, 6. "Yr Hwn a seiliodd y ddaiar ar ei sylfeini, fel na symmudo byth yn dragywydd. Toaist hi â'r gorddyfnder megys â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd." Ymddengys oddi wrth yr hanes yn Genesis fod y dyfroedd, yn gystal a thywyllwch, yn gorchuddio holl wyneb y ddaiar, ac hyd yn oed y mynyddoedd uchelaf, cyn creu'r