Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Grçtoa tefijẃtó. TNO NGWTNEB HAUL A LLTGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW TN UCHAF." Rhif. 148. EBRILL, 1869. Ctf. 13. ENWOGION YR EGLWYS. LEGH RICHMOND. Yr oedd Legh Richmond yn fab i Dr. Richmond, physigwr ac ysgolhaig enwog, yr hwn oedd wedi bod yn gymmrawd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Cafodd ei eni yn Llynlleifiad, Ionawr 29, 1772. Cafodd ei fendithio â mam dda a duwiol, yr hon a'i dygodd i fyny yn ofn yr Arglwydd. Yr oedd er yn blentyn yn hyddysg iawn yn yr Ysgrythyrau. Pan yn ieuanc, cyfarfu â damwain. yr hon a achosodd iddo fod yn gloff am y gweddill o'i oes. Cafodd ei addysgu gartref gan ei dad, a dangosodd y pryd hwnw ei fod yn feddiannol ar alluoedd clasurol; ac yr oedd yn arfer ymgyf- eillachu â'r awen yn awr ac yn y man; ac yr oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth. Cafodd ei anfon i Goleg y Drindod, Caer- grawnt, yn y flwyddyn 1789. Ni ddy- gwyddodd dim hynodrwydd yn <-ei yrfa golegol; ond astudiai â'i holl egni. Daeth yn un o'r rhai blaenaf yn ei goleg; ond deifiwyd ei obeithion gan afiechyd, a methodd â chael ei raddio, fel yr oedd wedi bwriadu; ond cafodd ei raddau yn ol llaw. Arosodd am beth amser ar ol hyn yn ei goleg, a dywedodd wrth ei dad ei fod am gael ei urddo yn offeiriad; ond cafodd ei siomi. Yr oedd ei dad am ei ddwyn i fyny yn far-gyfreithiwr; ond o'r diwedd, caniataodd iddo ei ddymuniad, a threuliodd beth amser i barotoi gyferbyn â'i swydd sancteiddlan. Yr oedd hyn yn achos o lawenydd mawr i'w fam, yr hon oedd yn gwedd'io yn barhäus am i'w mab gael ei ddwyn i fyny i'r offeiriadaeth. Cafodd ei urddo yn ddiacon ym mis Mehefin, 1797, a chafodd guradiaethau Brading a Yaverland, yn Ynys Wyth. Yn y cyfaraser, cymmerodd ei raddau, sef Athraw yn y Celfyddydau. Yr oedd y 13—xin. pryd hwn, fel y dywed ef, yn Athraw yn y Celfyddydau yn ei goleg, yn wr yn ei deulu, ac yn ddiacon yn ei blwyf. Penderfynodd, wrth gymmeryd gofal o'i guradiaeth, i weithio yn egnîol; ond nid oedd y pryd hwn yn ystyried pwysfawr- ogrwydd y swydd weinidogaethol. a gofal eneidiau. Dwfnhaodd ei olygiadau ar y mater, a phethau ereill yn fuan. Anfon- odd cyfaill iddo gopi o waith yr enwog Wilberforce, sef " Cristionogaeth Ymar- ferol," a darllenodd ef gyda gofal mawr. Y canlyniad fu, iddo deimlo yn fawr am sylweddoldeb pethau anweledig, a'r angen- rheidrwydd o wneyd pob peth yn enw yr Arglwydd Iesu, trwy rinwedd yr undeb sydd yn hanfodi rhyngom. Yr oedd yn ystyried ei fod dan rwymau mawrion i'r awdwr; ac fel arwydd o barch tuag ato, galwodd un o'i blant yn Wilberforce. Gofyna, " Oni allaf alw yr awdwr parchus yn dad ysbrydol?" Yr oedd yn ddiwyd iawn yng nghyf- lawniad ei ddyledswyddau pwysig. Yr oedd yn arfer myned o dy i dy, nid o ran cywreinrwydd, ond fel cyfaill. Bu ei ddull hynaws a charedig yn foddion i ennill serchiadau a chalonau ei blwyfolion. Yr oedd fel tad ym mhlith ei blant, ac yr oedd yn cymmeryd dyddordeb mawr yn yr Ysgol Sul; a chymmerodd lwybr i gasglu dynion mewn oed er ffurfio cym- mundeb agosach rhyngddynt a'u gilydd. Yr oedd yn arfer cynnal cyfarfod bob nos Fercher er egluro yr X§grytnyrau» y Llyfr Gweddi, a llyfrau ereill, y rhai oedd â thuedd i'w haddysgu, eu hadeiladu yn y ffydd, a'u cynghori. Bu y cyfarfod- ydd hyn o fendith mawr i'r gweinidog a'i blwyfolion. Teimlai ddyddordeb yn lles ysbrydol y