Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. CYFRES NEWYDD* «VNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 68. AWST I, 1855, CYF. VII. JERUSALEM. Erthygl III. 6foelate y Parch. Dé yno Offeiriad (medd y leocar Schmid yn mhell- ach) mewn dillad tra nodedig : yr hwn, yn ol y clywais rhagllaw, gan John Shamier, Ysw. masnachwr Armenaidd, ydoedd Esgob Armenaidd o Jerusalem, ?c wedi dytbd i India i dderbyn rhodd- ion gan ei gyd-wladwyr yma. Cofiais 1 mi glywed, ei fod yn eich bwriad chwi i anfon eich cynrychiolwyr ym Mor y Canoldir i Jerusalem, er mwyn Sefydlu yno os oedd modd, Fibl Gym- ^eithas. Dymunais gan hynny ar Mr. ^hamier i gael i mi, oddi wrth yr -Esgob hwn, y cyfryw hysbysiaeth yoghylch cyflwr pethau yn Jerusalem, ag a ellai fod o ddyddordeb i chwi gydà golwg ar y pwngc hwn. Yn garedig iawn, efe a gynnygiodd ei was- anaeth i'm cyflwyno i'r Esgob; a chefais ymddiddan ag ef ddydd Llun diweddaf, pryd y cyfieithiai Mr. ^hainier rhyngom. Cefais yr Esgob mewn tŷ a berthynai i'r Eglwys Ar- nienaidd, ac niewn ymddangosiad mewn amgylchiadau tlawd. Yr oedd Sanddo Rosary du yn ei ddwylaw. Ei enw yw Gregory. Mae ganddo farf hir ddu ; wynebpryd caredig ; ac ar y cwbl, ymddangosiad parchus. Yr oedd yr Offeiriad Armenaidd, sydd yn y lle hwn, neu fel y galwant hwy ef, y Ficer, yma hefyd ar y pryd. . Cefais oddi wrth yr Esgob a'r Offeir- la(ü yr hysbysiaeth ganlynol :— Heblaw Mahomediaid ac Iuddewon, ^^ y dosparthiadau canlynol o Grist- lonogion yn byw yn Jerusalem, Pab- 2 I yddion, Groegiaid, Armeniaid, Syriaid, a Choptiaid. Y nifer luosoccaf ym mhlith yr amrywiol enwadau hyn ydynt y Pabyddion. Mae yr ymrafael rhwng y Papistiaid a'r Cristionogion eraill mor fawr yn Jerusalem ag ydyw mewn mannau eraill; ac felly, yn ol barn ddynol, nid oes unrliyw debygolrwydd hyd yn hyn y gellir eu dwyn i undeb i atteb diben crefyddol. Gan yr Offeir- iaid yn unig y mae copiau o'r Bibl ; ac ychydig iawn o'r gwyr lleyg a fedd- ant gopi o hono. Ym mhlith hanner cant o deuluoedd Armenaidd, braidd y ceir un teulu yn meddiannu copi o'r Ysgrythyr Lân. Braidd y gall , y bedwaredd ran o'r bobl gyffredin ddar- llen. Hoffai y Cristionogion o bob enwadau dderbyn copiau o'r Ysgry- thyrau yn eu priodol ieithoedd eu hunain, ac na fyddai i'w Hoffeiriaid wrthwynebu hynny Yn unig, yr Off- eiriaid Pabaidd fel y mae yn debygol ni roddent eu caniattad i hynny, etto, llawer o'u proselitiaid ym mhlith yr Arabiaid a hoffant hyd yn oed i brynu Biblau Arabaidd. Hoffai y Cristionog- ion yn Jerusalem i anfon eu plant i ys- golion rhad, pebyddai i'r cyfryw ysgol- ion i gael eu sefydlu ; ond yn unig i'w plant gael eu dysgu i ddarllen ac ys- grifenu eu hiaith briodol eu hunain, a pheidio a'u tynnu oddi wrth grefydd eu rhieni. Gellid darllen yr Ysgryth- yrau yn yr ysgolion hyn; ond na ddylai dadleuon ynghylch crefydd gymmer^'d lle ynddynt. Cenhadwr perthynol i'r Gçnhadiaeth Eglwysig,