Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. CYFRES NEWYDD. 'YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhlf. 62. CHWEFROR, 1855. Cyf. VI. CROESHOELIAD CRIST. sírîî? oedd gwahanol fatti o gospedig- Gp* aethau ym mhlith y Rhufeipiaid, fel y cenedloedd eraill, yn ol natur y trosedd, a sefyllfa y troseddwr. Ac yr oeddynt yr amser hyn, fel mewn amser dylynol, yn myfyrio y cospedigaethau mwyaf creulawn ag oedd yn ddichon- adwy i'r meddwl dynol wneud'. Go- sodwyd ganddynt lawer o'r Cristionog- ion boreuol i farwolaeth yn y modd mwyaf barbaraidd a chreulawn. Weith- iau buasai'r troseddwr (h.y. yr hwn ag oedd yn gwneud proftes o Gristionog- aeth) yn cael ei wisgo mewn gwisg laes, a buasai honno yn cael ei hiro, neu ei gorchuddio a rhyw fath o byg, neu olew liosgadwy ; yna rhoddai y dien- yddwyr calon-galed dàn ynddi, nes îlosgi y troseddwr i farwolaeth. Bryd- iau eraill, byddai y Cristion yn cael ei daflu i mewn i'r Amphitheatre, at gre- aduriaid ysglyfaethus, megis Uewod a dywalgwn, nes caelei larpio ganddynt. Ond y gosbfwyaf gyffredin yneuplith i'r troseddwyr gwaethaf, oedd eu croes- hoelio ar'bren wedi ei wneud i'r cyf- ry w ddiben. Cafodd St. Pedr ei roddi i farwolaeth yn Rhufain, o dan deyrn- asiad Nero, yn y dull yma ; a chan fod ei Arglwydd wedi dioddef yr un farw- olaeth, dewisodd gael ei groeshoelio a'i ben tu a'r ddaear ; gan^yr ystyriai yn ormod anrhydedd iddo farw fel y gwnaeth ei feistr. Mae pob Cristion yn cartrefu o ran ei feddwl gyda marwol- aeth Crist; mae marwolaeth Crist yn ganolbwynt, oddiamgŷlch yr hwn y mae yn troi ; o ganlyíìiad, mae'n gwbl wybodus o ba fath'farwolaeth y bu farw, " A hwy a'i croeshoeiiasant ef." Fel hyn, yr oedd yn ei farwolaeth yn gwbl mor wael a dirmygedig, ag oedd ,yn ddichonadwy iddo fod. Y gosb waethaf yn ein gwlad ni, sydd yn cael ei gweinyddu ar y crogbren, a'r rhai hynny ag sydd yn terfynu eu hoes yn y dull yma, yw y dosbarth mwyaf dir- mygedig yn ein plith. A rhywbeth tebyg i'r radd waethaf oedd ein Hiach- awdwr bendigedig ym mhüth yr Iudd- ewon a'r Rhufeiniaid. Ond yr oedd golwg arall yn cael ei chymmeryd arni, gan wahanol fodau a dosbarthiadáu. Digon tebyg na chymmerodd dim le erioed, ag yr edrychai angylion gwlad goleuni arno gyda'r fath barch, ag yr edrychent ar y weithred hon, mor bell ag yr oedd yn dwyn cyssylltiad a gwir- foddolrwydd y Gwaredwr wrth roddi ei einioes i lawr. Ni chymmerodd däm le ar ein planned ni erioed, ag a osododd gymmaint o hynodrwydd arni yng ngolwg bydoedd a phlannedau eraill, a marwolaeth yr hwn ni wnaeth gam, ac ni chaed twyll yn ei enau. Ac y mae yn eithaf tebyg nad oedd cread- igaeth y byd hwn, yr holl 'gyfnewid- iadau ag y mae wedi myned trwy- ddynt, yng nghyda'r cyfnewidiadau mawrion sydd yn ei aros etto. ond llai na dirn yng ngolwg y Duwdod ei hun, mewn cydmhariaeth i farwolaeth ei an- wyl Fab, ynghyd a'ichanlyniadau. Ac hefyd, fel y syiwyd, nid rhywbeth di- bwys yng ngolwg y Cristion yw marw- olaeth boenus y Cyfryngwr, a gall ddy- wedyd oddiar wir deimìad, " Na atto Duw i mi "yrnífrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist." Cawn wneud ychydig o sylwadau ar groes- hoeliad Crist yn ol fel y mae yr hanes