Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 173. TACHWEDD, 1849. Cyf. XIV. DYDD MIDIAN. " Canys drylliaist iau ei faich ef, a ffon ei ysgwydd ef, gwialen ei or- thrymwr, megis yn nydd Midian." Er pan y mae dynion ar y ddaear, mae braich hollalluogrwydd y Dnw- dod wedi ei diosg er gwneuthur ym- wared iddynt o angenoctid eu cyf- yngderau ; ac y mae nerthoedd ei ryfcddodau yng ngwaredigaethau ei bobl, fel y maent wedi eu croniclo yn yr hanes ddwyfol, yn golofnau sefydledig o oes i oés, ac o genhedl- aeth i genhedlaeth, o ofal yr ucbel Dduw am eieiddo,ynghyd â'i barod- rwydd i weithredu iechydwriaeth iddynt pan fyddo mantellau y nos fawr wedi eu goblygu, a dyffryn Achor yn ei holl ddychrynfeydd wedi cau am danynt. Agorwyd pyrth ei ras yn Eden ; ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon, drwy holl oesau y ddaear, y roae ei ddaioni a'i dosturiaethau ef fel ffrydiau gris- ialaidd yn rhedeg allan i blith tru- enusìon y codwm, ac y maent wedi bod yn fywyd i fyrddiynau o blant marwolaeth, ac wedì dirwyn mwy na mwy o deulu y gaethglud o'r anialwch adref, y rhai ydynt yn awr .yn ysprydoedd perffeithiedig ger bron yr orsedd fawr yn y nef, yn dyrchafu clodydd eu Hiachawdwr a'u Duw mewn tonau na all neb eu seinio ond ardalwyr purdeb eu hun- 2V ain. Wrth edrych i mewn i lyfr Duw, gwelir môr o ryfeddodau yn dylenwi, ac ymerodraeth fawr gras yn ei gogoniant, ac ewyllys da y Teyrn tragywyddol at ei ddeiliaid drwy holl ddosparthion ei lywodr- raeth; ac yn y drera ar y pethan mawrion y mae efe wedi eu gwneu- thur, ymgryf ha ein heneidiau nin- nau; oblegid bod yr nnrhyw add- ewidion raawr iawn a gwerthfawr i ninnau, a'r un Duw i ymladd ein rhyfeloedd, ac i guro gelynion ein heneidiau draw. Dacw Enoch y seithfed o Adda yn cael ei gippio o blith y cynddiluwiaid, ac yn myned adref drwy ehangderau yr wybren- nau fel meteor tanllyd mawr, ac yn myned i mewn drwy byrth y ddinas aur wedi ei wisgo âg anfarwoldeb, ac yn bortreiad byw i'r thronau a'r arglwyddiaethau ysprydol yn y nef, o gyfansoddiad cyrph ysprydol trwy weiuidogaeth yr adgyfodìad diw- eddaf! Dacw Noe yn ei arch yng nghanol tonnau trochionog a gor- arswydus dyfroedd y diluw digofus, pan ydoedd natur megis ẃedi ym- ddattod, y dychrynfeydd mwyaf ym mhob rbyw fannau, a thymhestl na bu ei bath erioed yn curo ar adeilad y ddaear; ond wele Noe a'i deólu yn dyfod allan heb eu niweidio, obìegid eu bod dan warcbeidwadaeth y Duw mawr! Pan. ydoedd Israel