Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

320 AT OFFEIRIAID CYMRÜ. wirionedd yn hyn; ond etto, yr wyf yn barnu mai y ffordd fwyaf llwyddiannus i ddiwygio archwaeth y werin, yw gofalu am fod traethodau gwerthfawr yn ymddangos yn fisol y Cyhoeddiadao, fod y pyngciao yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol, fod yr iaith yn wylaidd (chaste,) a gofal yn cael ei gymmeryd gan bob ysgrifennydd i ymgadw ym mhell oddiwrth gyflelybiaethau an- weddaidd ac ymadroddion isel, yn enwedig wrth esponio athrawiaethaa crefydd, megis Adenedigaeth a'r cyffelyb. Gan fod yr Hadl yn Gyhoeddiad per- thynol i*r Eglwys Sefydledig, mae yn ddy- ledswydd arbennig ar y gwyr dysgedig sydd wedi ea neillduo i'r swydd bwysig o fod yn Athrawon crefyddol y bobl, i gyfrannu addysgiadau i raddau helaethach trwy gyf- rwng y Cyhoeddiad hwn, fel y byddo o flwyddyn i flwyddyn yn cynnyddu mewn gwerthfawrogrwydd defnyddiau, helaethder ac amrywiaeth gwybodau, ac mewn can- lyniad yn gwellhau archwaeth rhan liosog o ddarllenwyr y Dywysogaeth, Disgwylir i'r Cyhoeddiad Misol a ddygîr ym mlaen dan nawdd y coleddwyr mwyaf dysgedig, a helaethaf ac uchaf eu manteisîon, ragori ar eraill, a ddygir ym mlaen dan olygiaeth a thrwy ohebiaeth personau ag nas cawsant gyfartal ddygiad i fynu yng ngwahanol ganghennau dysgeidiaeth, ag a fwynhawyd gan Weinidogion yr Eglwys Wladol. Darfu i'r Parch. G. Jones, Llanddowror, wneotbur rhyfeddodau yn ei dymhor, gyda golwg ar ddiwygio moesau, ac ehangu gwy- bodaeth grefyddol tlodion Cymru, trwy gyfrwng yr Ysgolion Rhad Cymreig, y rhai a sefydlwyd yn y flwyddyn 1730. Meddyliaf y gellid, trwy gydweithrediad yr Offeiriaid trwy Gymru, gasglu llawer iawn o rianesion yr amseroedd hynny, oddiwrtb hen lythyr- au, a thraddodiadau sydd yn aros mewn gwahanol deoluoedd. Er esiampl, pe chwilid ym mhlith hiliogaeth a pherthyn- asau yr Offeiriaid canlynol, am hanes eu bywydau, sefyllfa trigolion eu plwyfi yn eu hamser hwynt, a cbasglu pob ysgrifau a ddichon fod etto ar eu hol hwynt heb eu distrywio, dichon y byddai hynny yn addysg- íadol, ac yn annogaethol iawn i breswylwyr ein gwlad yn yr oes hon i ymarferyd eu hunain i dduwioldeb, gan ystyried fod eu hymddygiadaa hwy yn gadae! eu hargraph ar yr oes ddyfodol. Yn y flwyddyn 1741, yr oedd yr Offeir- iaid canlynol yn gweinyddu yn y Ueoedd cyssylltedig â'u henwau; sef y Parch- edigion— Rich. Roberts, St. David's, John Thomas, Rector of Puncheston, M. Gwynne, Monington, Thomas Davies, Rector of Letterston, Wm. Propert, A. M., Rector of Bridell, Lewis Evans, Llanfyrnach, Pembroke- shire, James Griffiths, Llanunda, George Brock, Rector of Eglwys Erow, John Jones, Yicar of Clydey, P. Evans, Vicar of Llangeler, E. Jones, Curate of Talley, Griffith Thomas, Curate of Llanegwad, John Jones, Curate of Llandingat, Nicholas Griffiths, Curate of Llanycrwys, John James, Vicar of Mydrym, David Lewis, Vicar of Abernant, T. Davies, Curate of Llanarthney, Josh. Jones, Vicar of Llanfihangel-ar- Arth. E. Jones, Curate of Cayo, Antho. Morgan, Llangwnnwr, Jonathan Griffies, Vicar of Bettws, Wm. Thomas, Vicar of Cadoxton, Thomas Jenkins, Llanguick, L. Davies, Llandilo Talybont, John Price, Llansamlett, John Thomas, Coity, Wm. Cooke, Newcastle, r Thomas Evans,Curateof St. John's, near Swansea, P. Thomas, Corate of Gelligare, Roger Lloyd, Curate of Devynnock, Penry Baily,Curate of Llandilo'r-vane, Rice Williams, Llangynnog, Wm. Williams, Curate of Llanwrtyd, H. Powell, Vaynor, E. Williams, Ystradgynlais, Lewelyn Lewelyn, Llywel, Vavasor Dayies, Curate of Llanddewi Aberarth. John Pugh, Llanllwchhayarn, Thomas Davies, Vicar of Llandyfriog, Thomas Lloyd, Rector of Troedyraur, E. Davies, Rector of Aberportb, Edward Jones, Rector of Henllan. Pe gwnelai Offeiriaid presennol y plwyfi uchod lafurio i gasglu hanes bywyd yr Off- eiriaid a enwyd, ynghyd â ffeithiau hanesiol eraill perthynol i'r cyfryw leoedd, a'u han- fon i sylw y cyhoedd trwy gyfrwng yr Hatji», dichon y byddai hynny o les mawr i feithrin mwy o yspryd chwilio hynafiaethau, myfyrio ar waith natur, a darllen llyfrau