Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 161. TACHWEDD, 1848. Cyf. XIII. OLION DOETHINEB DDERWYDDOL.—(0 tu dal. 308.J Fel eu noddfa ddiweddaf, y Der- wyddon a ffoisant i Ynys Mon ; ond Suetonius Paulinus a'i lengoedd a'u dilynasant, a'r lladdfa a wnaeth efe ydoedd ddychrynllyd uwchlaw yr hyn a ellir ei ddychymmygu am greulondeb milwraidd, yn ol yr hyn a adroddir gan Tacitus ; ond ym- ddengys bod yr hanesydd hwn wedi ei gymmeryd yn ganiattaol, bod gwrtbddrychau y gyflafan a'r gelan- edd hon wedi eu creu i'r diben i gigyddion Rhufeinig gael arfer eu creulonderau tuag attynt. Dyweda Tacitus i Suetonius wneutbur pob parottoadau ag ydoedd yn ei allu i'w gwneuthur, er mwyn goresgyn Ynys Mon, yr hon bryd hynny a gyfanneddid gan bobl nerthol. Iddo wneuthur badau gwaelod-wastad er niwyn trosglwyddo y gwyr traed drosodd, ac i'r gwyr meirch nofío neu rydio yr afon. Ar y lann arall y safai y Brythoniaid, a'r menyw- aid yn rhedeg yn eu plith mewn galar-wisgoedd, a'u gwallt yn an- niben, a phentewynion yn eu dwy- law. Y Derwyddon a'u harogylch- ent, gan ddyrchafu eu dwylaw tua'r nefoedd, gan dywallt allan y mell- dithion a'r gweddiau mwyaf ang- heuol ; ond ni thycciai dim iddynt; Suetonius a fu yn fuddugoliaethus ; a'r milwyr Prydeinig, y menywaid, a'r Derwyddon a gigyddid heb nn- 2U rhyw drugaredd ; ac y mae Tacitus yn crybwyll am y gelanedd waedlyd hon mor ddidaro, a phe buasai yn adrodd am dryferiad nifer o bysgod yn afon Menai. Oddi tan iau Rhufain darostyng- wyd Derwyddiaeth, ac ni adferwyd y grefydd hon i'w llywodraeth wreiddiol byth ond hynny ; a rhag ofn y buasai gwireddau yr hen ddoethion yn cael eu colli, y darfu i'r Beirdd, y rhai hwythau oeddynt yn perthyn i'r Sefydliad Derwyddol, eu rhoi mewn ysgrifen. Cyhoedd- iad Cristionogaeth yn Ynys Prydain a roes ergyd marwol i Dderwydd- iaeth ; oblegid, pan yr ymholodd y Derwyddon i'w hathrawiaethau, hwy a'i derbyniasant gyda pharod- rwydd, ac a'i pregethasant gyda zel. Er i Dderwyddiaeth fel crefydd ddarfod, etto y moesoldeb a'r dyl- edswyddau a ddysgid gan yr hen grefydd, a gymhelìid gydag hy- awdledd adnewyddol pau gefnogid hwynt gan y grefydd newydd; ac fel hyn drwy y Beirdd, a thrwy y Gweinidogion Cristionogol Der- wyddol, cadwyd yr hen ddywed- iadau rhag ebargofiad, a hwy a drosglwyddwyd i'r oesau dilynol. Mewn amser llygrwyd llawer o'r hen ddywediadau, a llawer iawn o'r geiriau a aethant yn anneallatlwy, fel ag y bu yn angenrheidiol ail-