Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 155. MAT, 1848. Cyf. XIII. DIWYGIADAU CREFYDDOL. Gwneir crybwyìliadau mynych iawn yn cin gwlad ni ara ddiwyg- iadau crefyddol ; ond y raac lle i ofnì nad yw diwygiadau crcfyddol yn cacl eu deall yn yr ystyr wir a phriodol o honynt. Y fendith fwyaf i wlad ydyw diwygiad crcfyddol; ond, ryw fodd neu gilydd, yr ydyra ni y Cymry wcdi colli ein golwg arno yn ei ystyr wir a phriodol ei hun, ac yn cymmeryd rhyw boethfa, rhyw ias, a rhyw gynhwrf yn ei le ; ac y mae eisiau uniawnu ein golyg- iadau yn y matter; a thyna ydyw prif amcan yr ysgrif bresennol. Rhybuddir y darlíenydd ym mlaen Ilaw, i beidio eyffroi na chymmeryd ci gythrnddo, os cenfydd rai ymad- roddion yn yr ysgnf hon yn bwrw yn galed at y cynhyrfiadau poethlyd a eìwir gennym ni yn ddiwygiadau ; oblegid yr unig amcan ydyw, dyr- chafu safon crcfydd yng Nghymru, a'i dihatru o'r gwisgoedd estronol ac ammherthynasol iddi. At y gair ac at y dystiolaeth y mae i ni fyned ; ac os r.awn weled diwygiadau cref- yddol yn y drych bendigedig hwn, da y gwnawn i ddal arnynt, a'u synied yn eu natnr a'u golcuni eu hunain, ac hefyd ymdrechu am eu cael yn eu holl fendithion da- ionus, i lanhau, i buro, i wella, ac i ddiwygio y wlad yn wir, ac nid ei gadael mewn gwaeth cyflwr na chynt. Yr ydym wedi sylwî bod amser yn effeithio yn rhyfedd îawn ar y byd a'i bethau, ac y mae araser hefyd yn effeithio yn fawr iawn ar grefydd. Mae tuedd ym mhob rhyw sefydliadau i ymlygru ; ac ymlygru y mae sefydliadau erefyddol, ac ym- lygru a wnant, oni chedwir hwynt drwy fwy na mwy o ddyfalwch yn eu glendid a'n purdeb gwreiddiol eu hunain. Ond yn gymmaint a bod y Ilygredigaethau yn dyfod i rnewn i sefydliadau crefyddol braidd yn ddiarwybod, ac o ychydig i ych- ydig, fel nad ydynt yn cael eu gwelcd na'u teimlo, ac felly yn cael eu gadael i gryf hau a lliosogi, fel ag yn y pen draw ni welir hwynt, ni chyfaddefir hwynt, ac nid yn unig ni chynnygir at ddiwygio, ond cyfodir bonllef fawr yn erbyn y neb a gyn- nygia ddiwygiad. Ystyrir Cymru yn wlad grefyddol iawn ; a'r gwir ydyw, bod rhyw fath o grefydd wedi yrndaenu dros yr holl wlad ; ond a oes dim eisiau dyrchafu crefydd i uwch tir yng Nghymru nag y mae arno yn bresenuol ? Neu, mewn geiriau eraill, a oes dim eisiau gwir ddiwygiadau crefyddol yng Ngliym- ru?—diwygiadau o'r fath ag a ddyr- chafant y bobl i hyd llinyn mesur ciefydd, mewn pa bethau bynnag sydd wir, mewn pa bethau bynnag sydd onest, raewn pa bynnag sydd