Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 152. CHWEFROR, 1848. Cyf. XIII. Y NEWYDD ANGHEUOL. Er y trafferthion lliosog y mae y rhieni hynny a fagant blant yn agored iddynt, er cyfarfod lawer pryd âg anhawsderau fwy na mwy i gael ymborth digonol i'w diwallu, ac er mor anhawdd cael defnyddiau lawer tro i'w dilladu ; etto y mae rhyw ddedwyddwch ynglŷn â'u mag- wriaeth, dedwyddwch yn deilliaw o'u cyfeillach, dieithr i bawb ond y rhai sydd wedi bod ac yn y profiad hwn. Gwir, yr achosant dwrf nid bychan ar brydiau, y meithrinant ymrysonau aml yn eu mysg, ac y canant beroriaeth aflafar yn y teulu; ond wedi i'r rhyferthwy ddarfod, i'r cynhwrf beidio, a'r ystorm dawelu, ceir gweled Uonder yn eu gwedd, yn cyd-ddechreu o'r newydd gyda eu chwareuon plentynaidd. Fel hyn y niae yr amser yn myned, ddiwrnod ar ol diwrnod, wythnos ar ol wythnos, a blwyddyn ar ol blwyddyn ; ac er ofni y buasai i ffynnonau ein cyn- naliaeth gael eu dyhyspyddu, y mae Haw haelionus Tad y trugareddau wedi cyfrannu rhoddion ar roddion i iii, fel yr ydym yn parhau i fod yu wrthddrychau beunyddiol o'i dost- uriaethau, ac wedi ein dwyn yn ddihangol o bob cyfynderau hyd ynaa. Ond er y cynnelir ni uwch- law ein disgwyliadau yn ein holl drafferthion teuluaidd, yr agorir adwyau i ddihengyd o'r anghenoc» tid mwyaf, ac y cynnorthwyir y meddwl rhag suddo yn wyneb yr helbulon trymmaf a'ngoddiweddant yn nygiad y plannigion ieuaingc i fynu; etto y mae y braw a'r dych- ryn mwyaf yn taraw eiu meddyliau ar brydiau wrth edrych ar yr amser dyfodol, rhag gwywo o honynt cyn hanner dydd, a suddo ym merw y byd ym mhell cyn eu hamser. Mewn myfyrdod ynghylch y gwasgariad sydd yn cymmeryd lle ym mysg plant yr un teulu, y dinystr a'u go- ddiweddant, a'r gofidiau a achosant idd eu rhieni, cymmerais un teulu yn neillduol dan fy sylw, dilynais ef trwy holl droion y glynn, gwelais ddiwedd ei daith, a throais draw a'm calon yn doddedig mewn dagrau uwch ben ei drangc. A chan, ef allai, y byddai ei hanes, fel yr ym- gynnygiai i'm dychymmyg, nid yn unig yn dderbyniol gan ddarllen- yddion ieuaingc, ond yn foddion i'w hattal rhag prysnro eu dinystr, a disgyn penllwydni eu rhieni mewn ochain a galar i'r gweryd, fe'i cyf- lwynir idd eu sylw, gyda dymuniad ar iddynt fod yn dirion wrth yr eithafoedd y dichon fyned iddo, gan nas gall dyn pan fyddo ei dymherau raéwn cyÍFro lywodraethu ei hun megis ag y dymunai. Mewn man hyfrydol o'r Dywys- ogaeth, ar lanu afon redegog, ac