Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 150. RHAGFYR, 1847. Cyf. XII. ANGLADD BRENHIN BABILON. Mae egwyddor yn ymdaenedig drwy yr hen oruchwyliaeth, yr hon ni chydnabyddir mewn un modd gan yr oruchwyliaeth newydd, am ei bod yu groes hollol i'w hanianawd, megis ag ei dysgwyd gan Fab y dyn, a chan ei chenhadon cyntefig a anfonodd efe allan i'w chyhoeddi i drigolion y ddaear. Yr egwyddor y cyfeirir atti ydyw honno o ym- ddial ar elyuion, o wynfydu yn eu haflwyddiant a'u darostyngiad, a dyrchafu cân yn nydd eu trallodion; yr hyn a waherddir yn hendant gan yr Efengyl, am ei fod yn gwrthdaro yn erbyn y grefydd bur a pherffaith honno ag sydd yn dysgu dynion i garu eu gelynion, i fendithio y rhai a'u melldithiant, ac i wneuthur i eraill ym mhob dim megis ag y dy- munent i eraill wneuthur iddynt hwythau. Ond er bod yr egwyddor ymdaenedig drwy yr Hen Desta- ment, o wynfydu yn ninystr gelyn- ion, i'w gwrthod yn gyfaugwbl gen- nym ni, ar ba rai y torrodd gwawr goruchwyliaeth a chyfansoddiad niwy rhagorol; etto ni allwn lai na synnu oblegid drychfeddyliau Beirdd Prophwydoliaethol yr Hen Desta- naent yn eu pryddestion i'w gelyn- ion yn nydd eu gofwy; ac ym mhlith yr amrywiol ddryehfeddyliau a frithant y Psalmau a'r Prophwyd- oliaethau, nid oes yr un yn fwy nod- 2Z edig na'r drychfeddwl hwnnw o eiddo Esay, yn y bedwaredd bennod ar ddeg o'i Brophwydoliaethau, He y crybwylla am Angladd Brenhin mawr Babilon. Hyspys iawn i ddarllenwyr yr Ysgrythyr Lân ydyw hanes Brenhin mawr Babilon ; oblegid y mae mor nodedig am ei ryfeloedd braidd â'r holl genhedloedd, am lwyddiant ei arfau braidd yn erbyn yr holl wled- ydd, am ei fuddugoliaethau ar fren- íiinoedd lawer a holl gadernid eu lluoedd; yn gystal ag am ei falch- der, ei ymffrost, ei wangc, a'i greu- londeb at y bobloedd a orchfygid gan ei arfau. Yr oedd Brenhin Babilon a'i luoedd yn ddychryn i frenhiniaethau Asia ac Affrica; wedi gorchfygu teyrnasoedd lawer, ac wedi darostwng gorseddfeingciau lawer a'u holl ogoniant i iselderau y llwch. Ac fel hyn, yn wyneb ei fod yn fflangell mor drom ar yr holl genhedloedd, ac yn eu plith y gen- edl sanctaidd, nid rhyfedd bod hyd yn nod Prophwydi yr Arglwydd yn llawenychu yn nydd ei ddymchweliad yntau, ac yn canu clul ei farwolaeth gyda y fath orfoledd ag y gwna Esay Brophwyd yn y bennod dan sylw yn y dull canlynol:— "Jehofah a ddrylliodd ffon yr anwir- iaid, Gwialen y gorlbrymwyr, Ä