Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif 148. HYDREF, 1847. Cyf. XII. ANNERCHIAD YR ANRHYDEDDUS GEO. RICE TREVOR, A.S., Tr Etholwyr,yn Uandeilo Fawr, Awst 6,1847. " Mae yn orphwysedig arnaf yn awr i wneuthur rhyw gynnifer o syl- wadau yn eich clywedigaeth chwi. Mae yn foddhad mawr gennyf fi, wedi saith mlynedd ar hugain o wasanaeth gwladyddol fel un o'r Aelodau dros swydd fawr a phwysig Caerfyrddin, i ddychwelyd i chwi fy niolchgarwch didwyllaf a chalon- noceaf, am yr anrhydedd yr ydych newydd ei osod arnaf o'm hethol un- waith yn ychwanegol fel un o'ch Cynnrychiolwyr. Yr ydwyf hefyd dan rwymau i ddiolch i fy nghyn- nygydd a'm cefnogydd, am y dull prydferth y rhyngodd hodd iddynt íefaru am danaf; ac yn neillduol felly, teimlaf fy rhwymau mewn di- ©lchgarwch i'm cyfaill anrhydeddus yn fy ymyl yr hwn a'm cefnogodd. Crybwyllodd mai hon ydoedd y waith gyntaf iddo ef annerch cyn- nulleidfa boliticaidd; a'r hyn oll a allaf ddywedyd gyda golẅg ar hyn ydy w, 'fy mod yn gobeithio yn ddi- dwyll roai nid hon ydyw y waith olaf; oblef^d ohwi a gydunwch â mi, mai ychydig o ddynion ieuainge, a ymddangosant am y tro cyntaf o flaen cynnulleidfa gymraysg, a allant obeithio dyfod drwy eu tasg mor anrhydeddus àg y üaeth ef. Mae achlysuron etholiadol, yn y blynydd- 2Q oedd diweddaf, wedi ein goddîw- eddyd gyda buandra mawr; ond y Senedd ddiweddaf a gyrhaeddodd derfyn saith ralynedd ei bywyd na- turiol. Mae wedi bod yn ddiddanus iawn i mi ar bob achlysur, bod eth- olwyr y swydd hon bob amser wedi rhoddi i mi y cefnogrwydd gwres- occaf, a bod y rhai hynny a wahan- iaethent oddi wrtbyf yn eu barnau politicaidd wedi ymddwyn tuag attaf gyda y fath hynawsedd, fel nad oes gennyf achos i achwyn arnynt. Mae wedi bod yn fyfyrdod pryderus, ac yn amcan didwyll gennyf, hyd yn nod yn amser yr ymrafael poethaf a brofasom, i mi ymattal rhag dy- wedyd na gwneuthur dim i gyfodi teimlad anhyfryd ym meddyliau fy ngwrthwynebwyr. Mae amser maith wedi myned heibio er pan lwyddais gyntaf i gael yr anrhydedd o'ch cynnrychioli yn y Senedd ; ac yr ydym, yng ughorph y deg a'r un mlynedd ar ddeg sydd wedi myned heibio, wedi byw mewn amserau p gyffro politicaidd mawr, ac weẁ myned drwy ymdrechion uwchlaw y cyfFredin. Cyfnewidiadau mawrìon hefyd a effeithiwyd yng nghyfan- soddiad y wlad hon. Nid fy amcan yn awr ydyw traddodi i chwì ryfr fath o ddarlith boliticaidd hirfaith,