Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif 147. MEDT, 1847. Cyf. XIL ANNERCHIAD ARGLWYDD ESGOB TY-DDEWI, Ar yr achlysur o osod Carreg Sylfaen Coleg Athrawon pertbynol i'r Eglwys SefydledÌg yn y Deheudir, yng Nghaerfyrddin, Gorphenhaf 16,1847« " GyFEiLtiONj^-Yr ydym newydd fod yn dystion o gychwyniad gwaith mawr a thra phwysig. Ỳr ydwyf yn gwbl sicr bod yr holl bresennol- ion ag ydynt yraa yn awr yn gorfod teimlo, mai nid â seremoni wag er rowyn difyrru y llygad yn unig yr ydym wedi bod yn ymwneuthur; ond gyda dechreuad gorchwyl cyf- oriog o*r canlyniadau pwysfawroc- caf—canlyniadau a gyrhaeddant ym mhell tu hwnt í derfynau y gall rhagwelediad dynol obeithio eu di- lyn—canlyniadau a efíeithiant ar lesoldeb mwyaf nifer afrifed o'n cydgreaduriaid, nid yn unig o'r gen- hedlaeth hon, ond o'r cenhedlaethau ag ydynt etto heb eu gení, a hynny yn dymhorol ac yn ysprydol hefyd, Yr ydym wedi cydnabod ein hym- ddibyniad ar y fendith ddwyfol, am lwyddiant ar y gorchwyl a ddech- reuwyd gennym heddyw ; ac wrth wneuthur hynny, ni a obeithiirn i'n meddyliau gael eudyrchafu i dremio arno yn ei oleuni priodol ei hun ; o ganlyniad, yr ydwyf yn anewyllys- gar i adael i gymmaint a munud fyned heibio, tra y mae ein meddyl- iau dan argraph y teimlad hwn, heb wneuthur rhai sylwadau ar y dîben- ion a'n dygasant ynghyd. Ni threuîiaf eich amser drwy gynnyg 2M unrhyW ddadí ym mhíaid Addysg* iaeth boblogaidd, (er, yn gymmaint a bod yr adeilad wedi ei fwriadu i ddibenion Addysgiaeth, nid gallu* adwy myned heibio y pwngc hwn mewn distawrwydd,) ond cyfyngaf fy hun at yr ychydig ystyriaeth- au cyífredinol ac amlwg hynnÿ ag ydynt yn dwyn cyssylltiad neill- duol â'r achlysur presennol. Gwaith ofer ydyw dadleu ynghyích pwngc y credìr ynddo gan bawb, sef pwya- fawrogrwydd ac angenrheidrwydd Addysgiaeth bobíogaidd. Gall fod amryw farnau gyda goíwg ar y modd i ddwyn hyn ym mlaen ; ond am yr angenrheidrwydd anhebgorol sydd am dano, y mae pawb ag ydynt yn berchennogion deall, ac heb fod a'u meddyliau mewn cyâwr o wall- gofrwydd, yn cydnabod hynny. 09 oes rhyw rai yn barnu ei fod yn well peidio rhoddi Addysgíaeth i'r dosparthion tlottaf, ni lefarant yn gyhoeddus yn erbyn ei bwys- fawrogrwydd. Od oes neb yn Ilettya y teimlad hwn yn eu caîonnau, dis- tewir hwynt gan yr unfrydedd cyff- redinol a ffyuna gyda golwg af y pwngc hwn, a hynny nid yn unig yn y wlad hon, ond ym mhlith holl genhedloedd gwareiddiedig Ewrop. Ond y mae yn siomíant mawr i bob