Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif 146. AWST, 1847. Cyf. XIL BYRDRA A THRALLODION BYWYD. " Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul. Fel blodeuyu y daw allan, ac y torrir ef ymaith ; ac efe a gilia fel cysgod, ac ni saif." Mae yr un haul ag a fu yn ty- wynnu ar lannerch ddedwydd Eden, pan gyflewyd y cydmeiriaid cyntefig yno, yn tywynnu arnom ni yn bre- sennol ; ond y mae llwch y ddynol- iaeth wreiddiol yn gydgymmysgedig â'r priddellau er ys miloedd lawer o flynyddoedd; oblegid hwynthwy a dorrwyd i lawr, ciliasant fel cysgod, ac ni safasant. Mae goleuni arian- naidd y lleuad a safodd uwch dyff- ryn Ajalon, er mwyn goleuo y fyddin Israelaidd i gael gorfodaeth lawn ar eu gelynion, yn tywynnu arnom ni yn awr; ond am y byddinoedd rhyfelgar hynny a welsant y wyrth ryfeddol, y maent er ys oesau lawer ìawn yn gorphwys ac yn huno yn nistawrwydd y llwch. Er bod pob gwrthddrychau gweledig yn rhedeg gyrfa i drangcedigaeth yn y pen draw, y mae mwy o sylw yn cael ei wneuthur ar yrfa dyn nag ar ddim arall; oblegid bod yr Hollalluog Dduw wedi argraphu gwertb, mawr- edd, a gogoniant arno yn y fuchedd hon, ac wedi ei wneuthur yn etifedd anfarwoldeb yn y fuchedd fawr dra- gywyddol draw. Crewyd dyn ar 2H lun a delw y Duwdod yn y dech- reuad ; pan droseddodd dyn, anfon- odd Duw ei Fab i'r byd er mwyn bod yn Waredwr iddo ; ac ymmhob oes, a than bob goruchwyliaeth, y mae dyn wedi bod yn wrthddrych neillduol o sylw a gofal rhaglun- iaethol Tad tirion y trugareddau; ond etto, er hyn oll," Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawa o helbul. Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymaith ; ac efe a gilia fel cysgod, ac ni saif" Yr oedd dechreuad dyddiau Job wedi eu coroni â llwyddiant mawr ; yr oedd y mwyaf o holl feibion y dwyrain; ei feddiannau a'i gyfoeth yn helaethion, cysuron ei fywyd yn dylifo iddo fel y môr, rhagluniaeth yn gwenu arno o'r nefoedd uchod ac o'r ddaear isod, a'r Arglwydd Ddnw wedi murio oddi amgylch iddo; a thuag at iddo gael cymmaint o gy- suron gwir oddiwrth y fuchedd bre- sennol ag oedd ddichonadwy i ddyn gael, yr oedd gras wedi ei gyfaddasu i hynny; oblegìd yr oedd yn ber- ffaith/.$ç yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac •■■ýsítìciìio oddiwrth ddrygioni. Ond'ýhgnghanol y llwyddiantmawr a ddaeth: i'w ran, pan ydoedd pob peth yn gweuu arno, a'r golygiadau dyfodol o'r fath ag i roddi sail go- béithiou na ddeuai un cwmtnwl ì dywyllu haul ei fywyd, hyd oui ddis-