Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 145. GORPHENHAF, 1847. Cyf. XIL Y DDIHANGPA. Ganèd tfor yn nyffryn trueni ysprydol, lle y teyrnasa Apolyon mewn rhwysg mawr, ac y cyflawna greulonderau, y rhai, pe adroddid hwynt hob yn un ac un, a lanwent gyf- rolau, ac a achosent y fath fraw, fe ]y fferrai y gwaed ym mhob gwythienau, ac y gorlenwid pob mynwesau gan y dychrynfeydd mwyaf; oblegid, wedi iddo ef gael y gwasanaeth ffyddlonaf, yr ufudd-dod manylaf, a'r parch uchaf gan ei wasanaeth- wyr, efe, ar derfyn eu teithian, a'u gwobrwya â dihenydd tragywyddol, o fewn gororau y wlad anuedwydd- af, am eu bod mewn berw parhaus gan anadl yr Hollalluog, a'i phre- swylwyr yn y loesion trymmaf gan y piccellau tanllyd a drywanant eu heneidiau yn ddiddor. Y bore y cyfrifwyd Ifor yn llechres dynolion y byd, rhuai y llewod, bugunadai teirw, a chwibanai seirph oddi am- gylch yr annedd, unwedd a phe buasai yr holl uffernolion wedi torri drwy ddorau eu carcharau, mewn awydd i'w gael a'i gludo i'r dan- llwyth ferw-wyrdd, er ei gladdu yn nyfndêrau corbyllau distryw yn oes oesoedd. Y munnd yr ymddangos- odd yng ngwawl y dyda, eanfyddid hadau yr heu wabangìwyf yn ei gyfansoddiad, gwelwyd ei fod wedi ei wenwyno gan y sarph, ac ed- rychid ar gymmylswr'pechod y rhai 26 a anffurfient eí wedd ; ac fel eraill o'r un rhywiogaeth, gwnaeth yn amlwg yn fuan ei fod yn gwbl lygr- eàigi ac y gwasanaethai yn ffyddlon y gormeswr a dorrodd drwy furiau Eden}ac a draws-feddiannodd balas hardd y Brenhin anfarwol. Ym more ei oes, yr oedd yn ddiwyd yn dysgu trin eirf tywysog gormesol y tywyllwch, yn llawenhau ym mhob gwasanaeth er cynnal i fynu go- lofnau teyrnas y gelyn mawr, ac wrth fodd ei galon yn nhwrf pob gloddest annuwiol; yr hyn a bar- odd i rai feddwl mai byrr ei ddydd- iau a fyddai ar y ddaear, a'i fod yn prysuro i'w ddihenydd, gan y gwel- ent ef yu feunyddiol megis yn add- fedu i'w ddinystr, ac ar gyrhaedd y dibyn, dros yr hwn, wedi unwaith syrthio, uid oes gyfodiad mwy. Nid ofuai ei riaint Dduw Abraham, ni pharchent gyfreîthiau glân y nef- oedd, ac ni synient am y pethau a berthynent i'w heddwch ; ac felly ni chafodd Ifor gynghorion gan fam, addysgiadau gan dad, na hy- fforddiadau Cristionogol, am yr es- geulusai yn gwbl yr Èglwys blwyfol yn y pentref cyfagos, a'r Addoldy Ymneillduedig ger y bryn draw. Ac erbyn ei fod yn ddeunaw oed, efe oedd y blaenaf mewn annuwiol- L deb, y cyntaf ym mhob cynniweir- ìlydd ynfyd, a'r uchaf ei dwrf ym