Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 143. MAI, 1847. Cyf. XII. TRAETHAWD BUDDÜGOL, AR "Fawr Les Addysg crefyddol a moesol; ac Euogrwydd y Rhieni hynny a esgeulusant eu hunain ddysgu eu Plant, ac ni ofalant eu danfon i Ysgolion lle y caífont eu dysgu gan eraill." "QüID DÜLCIÜS HOMINÜM GENERI A NATDRA DATÜM EST QUAM SUI CüiaUE LlBERI?" CICERO. " Pa beth yn y creaduriaeth mor hoff gan ddyn a'i blant V* gofynna Cicero ddoeth; ond er hyn oll, pa roor aml y gwelwn y gwrthddrych- ion anianol hyn o ofal dyn yn cyf- arfod â lliaws aneirif o ddamweiniau ac anffodau, oblegid bod nifer mawr o rieni yn euog o esgeulusdod bei- ádwy ac ymddygiad gwarthus tuag attynt ? Cyn cychwyn ar ein testuu, hwyrach na fyddai yn anghymhwys ddywedyd gair neu ddau ynghylch dyledswydd gyffredinol rhieni tuag at eu heppil. Os sylwn ar y gawrgath (tigress) greulon a gwaedlyd, cawn weled bod ei theimladau tuag at ei chen- awon yn dra thyner a thirion, a gallwn ym mron dybied ei bod wedi dihatru ei hunan o'i holl ffyrnig- rwydd greddfol. Ar yr ochr arall, gwelwn y golommen hawddgar a diniwed, pan fydd ei chywion an- wylion mewn perygl, yn anturio ei bywyd drostynt; ac felly mewn rhyw ystyr yn newid ei gwir anian. Gan mai hyn yw ymddygiad cread- uriaid mudion ac ammhwyllogion, pa addysg a gasgli di, O ddyn; ac, yn fwy enwedig, O Gristion? Os esgeulusi feithrin a choleddu dy eppil, a chyflawnu eu hangenrheid- iau corphorol, a ydwyt ti ddim yn tybied y pera hyu i ti fod yn fwy calon-galed ac annheimladwy na llewod a bleiddiau rheibusion? Etto, pa gymmaint mwy a fydd dy euogrwydd, os esgeulusi eu porthi gyda'r manna nefol hwnnw a bortha eu heneidiau gorwerthfawr, ac a'u gwareda o boenau tragywyddol!— Ỳn awr at ein testun ; sef, I. " Mawr les addysg crefyddol a moesol." Nid oes dim yn effeithio mor rymmus ar ymddygiad dynol- ryw ag arferiad, ac yn neillduol ar- feriad foreuol. Mae hi yn gwbl alluog i adffurfio pob dynsawd, ac i'w gynnysgaethu gyda gogwydd- iadau a medriantau gwahanol i'r rhai a berthyuant iddo yn briodol ar ei fabandod. Yn wir, y mae un o'r Diarhebion Saesonig yn haeru, " fod arfer yn ail anian." Os my- fyriwn pa nifer o bethau yr ydym yn eu hoffi, ac etto, pan ddechreu- asom eu defnyddio, pa mor gas oeddynt gennyra ar y cychwyu,