Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 135. MEDI, 1846. Cyf. XI. Y CWMMWL TYSTION GOLEÜ. "A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Jephthae ; am Ddafydd hefyd, a Samuel, a'r prophwydi." Ni ali dim glafychu y meddwl dyngarol yn fwy na darllen dalen- nau hanesyddiaeth, ym mha rai y mae y drygau, y celaneddau, a'r ysgelerderau mwyaf a gyflawnwyd ar y ddaear erioed wedi cael eu cofnodi; a phan eir drwy gronicl pob gwlad, a gweled oes ar ol oes yn cynnyddu mewn drygau, yr olaf- ion o hyd yn myned yn waeth na'u hynafion, a'r pechodau diweddaf yn fwy porphoraidd na'r rhai blaenaf, y mae y meddwl braidd yn myned yn benderfynol bod daioni wedi cael ei arwain i gaetbiwed, ac wedi trengu byth yn y gadwyn. Pan ddilynir Uwybrau Alexander Fawr, ac y cyn- niweirir ar ei ol yn ei deithiau drwy y Dwyrain, ni welir dim ond gwaed, celaneddau, a distryw ; ni chlywir dim ond cwynfannau dolefus clwyf- edigion, ebychiadau truenus lladd- edigion, ac wylofain chwerw gwled- ydd wedi eu hanrheithio gan y cleddyf; ac nì theimlir dim ond calon drist yn llesmeirio yn y fynwes. Pan fwrir golwg dros groniclau Ym- erodraeth Rhufain, ni chanfyddir ond celanedd a gwaed, clwyfau 2M llydain agored, a'r anwedd angheuol yn darth tew yn esgyn o lannerchau y lladdfeydd i'r uchelder ; a'r fath ydoedd cigydd-dra ac anghenfileidd- dra rhai o'u Hymerawdwyr, fel ag y mae clywed eu henwau yn ddigon i attal curiad calon unrhyw ddyn ystyrbwyll. Nid mewn un drwg, na dau ddrwg, na thri drwg, y mae plaut Adda wedi gwneuthur eu hun- ain yn honnaid; oblegid y raaent wedi cyrhaeddyd hydred a lledred pellaf pob drwg, fel ag y gellir braidd dywedyd, Dyma derfynau eithaf pob drygau, ac ni ellir myned ym mhellach. A ydyw yn ddichou- adwy i lofruddiaethau mwy ysgeler gael eu cyflawnu, na'r rhai yr ydym ni wedi clywed neu ddarllen am danynt ? Nac ydyw ddim. A ydyw yn ddichonadwy i odinebau mwy halogedig gael eu cyflawnu, na'r rhai ag ydynt wedi cael eu crorẃplo yn ein hoes ni ? Nac ydyw. . Ed- rychwn tua'r Gogledd a'r Deheu, tua'r dwyrain a'r Gorilewin, ni a ganfyddwn ddrygau aneirif yn ym- ddyrchafu yn golofnau mawrion tuag i fynu; ac yn wyneb y golygfeydd trychinebus a welwn, yr ydym ar brydiau yn synnu, ac yn barod i ddywedyd, Rhaid bod amynedd Duw yn fawr, amgen efe a ymwisgai ym mentyll ei ddialeddau, ac a ddis- gyunai tua'r ddaear i daro ei thrig-