Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 113. TACHWEDD, 1844. Cyf. IX. DOSPARTH YMARFEROL YR EGLWYS. Crybwyllwyd yn barod, mewn amrywiol erthyglau dilynol yn yr Haul, am ddosparth egwyddorol yr Eglwys ; ac eir ym mjaen yn bre- sennol at y dosparth ymarferol, er mwyn dangos a phrofi bod Eglwys Loegr yn gyfan, ac yn atteb i'r ar- luu a roddir o Eglwys Apostolaidd yn ysgrythyrau y Testameut New- ydd. Y mae wedi bod yn arferiad gan wrthwynebwyr yr Eglwys i'w chyhuddo, nid yn unig o ddiogi, ond i haeru nad oes ynddi egwyddor weithgar, ac, mewn canlyniad, mai Eglwys farw ydyw, ac heb fywyd ynddi; ac oblegid dieithrwch y werin sectaraidd i'r Eglwys, credant fel gwirionedd y cyhuddiadau a'r haeriadau a wneir yn ei herbyn, er bod y cyfryw ar yr un pryd heb fod a'u seiliau ar y gwirionedd. Cedwir y werin ymneillduedig yn gwbl yn y tywyllwch gyda golwg ar weithrediadau yr Eglwys, oblegid ni chrybwyllir gan weinidogion ym- neillduedig o'r pwlpudau ddim ond am farweidd-dra yr Eglwys ; ac ni chrybwyllir yn y cyhoeddiadau misol ymneillduedig ddim ond am ddi- ffrwythdrayr Eglwys, pan grybwyllir hefyd am dani ; ac felly y mae y werin anwybodus ytn meddwl nad ydyw yr Eglwys wedi gwneuthur dim, ac nad oes ganddi allu i wneu- thur dim. Crêd y werin sectawl iü ydyw, mai eiddo yr Ymneilìduwyr ydyw Cymdeithas y Biblau, ac nad ydyw yn derbyn ond cynnorthwy gwannaidd oddi wrth yr Eglwys. Crêd y werin sectawl hefyd ydyw, mai eiddo yr Ymneillduwyr ydyw y maes Cenhadol; ac y mae yr un grêd hefyd yn ffynnu gyda golwg ar bob rhyw weithrediad crefyddol. Gof- ynir gan lawer, Pa beth y mae yr Eglwys yn ei wneuthur ? Paham y mae yr Eglwys yn cysgu pan y mae yr holl fyd crefyddol ar ddihuu ? Pa fodd y mae yr Eglwys yn farw a'r holl enwadau crefyddol mewn bywiogrwydd í Y mae gofynnion o'r natur hyn yn brawf amlwg fod y sectau yn byw ac yn ysgogi braidd yn hollol o fewn eu cylchoedd eu hunain ; ac oblegid eu bod yn cael eu cadw yn y fath dywyllwch ac an- wybodaeth mewn perthynas i lafur ac egnion Cristionogol a chrefyddol yr Eglwys, y maent wedi darbwyllo eu hunain a'u gilydd, mai marw yw, ac nad oes ynddi na gwaith na thuedd 'rhwaith i weithio. Y mae yn deilwng o sylw, raai yr Ymneill- duwyr ydynt y rhai mwyaf campus i chwythu yn y cyrn o hunan glod, ac i ymffrostio yu y gorchwylion a gyflawnant; ond arn yr Eglwys, nid ydyw ei swn ffrostgar i'w glywed o bob bryn, eithr y mae argraphiad- au ac olion annileadwy eî hegnion