Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhik. 109. GORPHENHAF, 1844. Cyp. IX. EGLWYS WLADWRIAETHOL—(Parhad o tudal. 179.) Nid ydyw yr Ymneillduwyr yn gallu cyttuno yn eu plith eu huuain ynghylch cynnysgaeddu neu waddoli achosion a sefydliadau crefyddol. Y mac rhai o honynt yn erbyn hynny, ond y nifer Iiosoccaf dros hynny ; ac y mae y rhan amlaf o'u haddoldai i raddau mwy neu lai yn waddoìedig; sef â thŷ, fferm, cae, llog ẃtiân, &c. Y maent yn gyff- redin a rhyw gynnysgaeth fechan yn perthyn iddynt; ac felly, yn gyffredinol, cydnabyddant yr eg- wyddor o hawí dyu i roddi ei fedd- iaunau tuag at gynnysgaeddu sef- ydliad, a chydnabyddant gyfreith- londeb y gyfryw gynnysgaeth trwy ei derben a'i mwynhau. Felly, nid oes dadl i fod ynghyleh yregwyddor o gynnysgaeddu,na chyfreithlondeb derbyn a mwynhau y gynnysgaeth a osodir at achosion a sefydliadau crefyddol; oblegid y mae yr Ym- neillduwr, gan mwyaf, yn cydnabod pob un o'r ddau. Rhoes Duw etif- eddiacth i'r Lefiaid, sef dinasoedd, ym mhlith etifeddiaethau llwythau Israel, heblaw y degymmau, &c. Ond pan ffurfiwyd yr Églwys Grist- ionogol, yr oedd yn hollol ar yreg- wyddor wirfoddol; a pharhaodd felly, hyd oni wnaed darbodaeth gan y llywodraethau gwladol ar gyfer cynnaliaeth ei Gweinidoglon. Yr oedd yr efengyl wedi llwyddo ac 2C wedi ymehangu yn rhyfedd drwy yr holl Ymerodraeth Rufeinig cyn ara- ser Cystenyn ; ond y mae yn rhaid i ni ddeall mai yn y dinasoedd a'r trefi poblogaidd yr oedd yr efengyl yn adnabyddus ac yn cael ei phre- gethu ; ond yr oedd y pentrefi, a'r ardaloedd pellennig oddiwrth y dinasoedd a'r trefi, o dan gaddug du tywyllwcheilun-addoliaeth. Pan wnaeth Cystenyn Fawr y Grefydd Gristionogol yn grefydd yr Ymer- odraeth; neu, mewn geiriau eraill, pan gyhoeddodd fod y llywodraeth Rufeinig yn llywodraeth Gristion- ogol, rhoes fywyd newydd i'r Eg» lwys,a gwnaeth y llwyodraeth ddar- bodaeth ar gyfer ei Gweinidogion, a'r efengyl a bregethwyd yn gyff» redinol drwy yr holl Ymerodraeth wareiddiedig. Mewn perthynas i waddol neu gynnysgaeth yr Eglwys Brydeinig ; cyn i'r Sacsoniaid oresgyn ac yni- sefydlu yn y deyrnas, yr oedd yn. Eglwys Aposlolaidd reolaîdd ; yn enwog ac yn glodfawr drwy holl gred. Yr oedd yr Esgobaethau wedi eu sefydlu, a'r Esgobion yn canlyn eu gilydd ýnddynt yn rheol- aidd, a'r gyssegr-lywodraeth mor berffaith yn eî threfniadau ag yr oedd modd. Yr oedd ym mhob ystyr yn Eglwys Apostolaidd, ac yn gwbl anymddibynnol ar bobÉgiwy»