Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 105. MAWRTH, 1844. Cyf. IX. EGLWYS WLADWRIAETHOL.—(Parhad o tudal. 47.) Ont> gyda golwg ar y Gyfun-; draeth Wirfoddol, mewn casgliadan ■ a rhoddion at achosion crefyddol a dyngarol, y mae yr Eglwyswyr mor flaenllaw a'r blaenaf, ac yn fwy ! hynod yn y maes hwn na neb Crist- ionogion eraill. Fel prawf o'u : haelioni a'u cytnmwynasgarwch cre- í fyddol, gellir nodi yn neillduol add- I oldai yr Ymneiliduwyr. Wrth ; wrando ar a darllen eu hareithiau, ! geliid meddwl mai y gormeswyr ac j mai y trawsion pennaf a fu ar y j ddaear crioed ydyw Eglwyswyr. | Nid ydyw yr Ymueillduwyr, yn eu I hareithiau, eu pregethau, a'u Cy- \ boeddiadau jMisol,wedi arbed un-i rhyw enwau a awgrymmant drais a \ chreulondeb, nad ydynt wedi ac yn | eu rhoddi ar yr Eglwys a'r Eglwys- i wyr, er mwyn eu gwaradwyddo a'u í gwarthruddo yng ngolwg y wlad. Ond pa beth sydd yn ymddygiadau yr Eglwyswyr ag sydd yn galw am hyn oddiar eu dwylaw ? Edrycher ar addoldai y gwahanol enwadau crefyddol drwy y wlad, ac ymholer ar ùiroedd pwy y maent wedi cael eu hadeiladu. Y mae tri o bob ped- war o addoldai yr Ymneillduwyr wedi eu hadeiladu ar diroedd Eg- lwyswyr! Y mae hyn yn brawf amlwg nad ydyw athrawiaeth ac yspryd Eglwys Loegr mor ddrwg ac mor anrasol ag y mynn yr Ym- neillduwyr i'r wlad gredu eu bod. Ac nid yn unig y mae yr Ymneill- duwyr wedi cael tiroedd am ardreth- ion ysgafn i adeiladu addoldai ar- nynt, ond cynnorthwywyd hwynt hefyd i'w hadeiladu drwy roddion deilliedig oddiwrth yr egwyddor wirfoddol gan Eglwyswyr; ac yn dâl ain hyn, gelwir hwy yn fynych ganddynt yn ormeswyr, yn draws- ion, yn eríidwyr didrugaredd, &c. pan y mae adsain y garreg o'r mur yn taflu y celwydd yn ol, ac atteb y trawst o'r gwaith coed yn selio yr sdsain ! Y Gyfundraeth Wirfoddol mewn casgliadau! Nid mor wirfoddol y mae y Gyfundraeth hon yn gweithio ym mhlith yr Ymneillduwyr. Y mae yn anhawdd deall ar ba seiliau y gailant roddi cymmaint o gan- moliaeth iddi. Nid ydyw mor dda yn eu plith, gyda golwg ar gynnal- iaeth y weinidogaeth yng Nghymru/ Y mae yr Ymneillduwyr, yng Ngweithiau Morganwg a Gwent, yn fwy hael at eu gweinidogion nag yn un man arall yn y Dywysogacth. Rhoddant yno o bedair, i chwech, a saith punt y mis ; ond pan ystyrir amgylchiadau y Gweithiau, a bod amryw o'r gwcinidogion a theulu- oedd lliosog ganddynt, y mae y gyf- log yn fynych yn myned yn rhy gwtta, fel y mae y gwêinidogion,