Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 94. EBRILL, 1843. Cyf. VIII. SÍARS ESGOBAETHOL. " Siars i Offeiriaid Esgobaeth Tŷ-Ddewi, gan Conuop, Arglwydd Esgob Tý-Ddewi, a draddodwyd ar ei ymweliad cyntaf, Hydref, 1842." Tybir gan laweroedd o bobl, mai swydd wag yn yr Eglwys ydyw y swydd esgobawl, yr hyn hefyd yn fynych a gyhoeddir yng nghlyw y werin, fel ag y mae y bobl gyffre- din, oblcgid eu dieithrwch i'r Eg- lwys Sefydledig, yn gamsyniol iawn yn eu barnau gyda golwg ar ei nhatur a'i dyledswyddau. Ond y gwir ydyw, bod y swydd esgobaeth- awl, yn yr iawn weinyddiad o honi, a hynny gyda golwg ar ei chyfrifol- deb i Dduw, a'i gweinyddiad efang- ylaidd yn yr holl ddosparthion per- thynol iddi. Y mae bywyd y wei- nidogaeth drwy yr holl Esgobaeth, y mae llwyddiant ac aflwyddiant yr Eglwys yn yr Esgobaeth, ac y mae gwawr yr achos crefyddol eglwysig, yn ymddibynnu i raddau helaeth ar îawn weinyddiad y swydd esgob- awl. Bu amser pan ydoedd Dehcu- dir Cymru, a Gwynedd hefyd, ef allai, yn ddisylw o'r Esgobion a'u dyledswyddau ; ond yn bresennol, y mae hyd yn nod lleygion yr Eglwys yn craffu yn fanwl ar bob ysgog- ìadau esgobawl, nid er mwyn cael allan wallau i'w cyhwfanu i'r werin, ond er gweled o ba yspryd y maé eu Hesgobion, a pha beth sydd i'r Esgobaethau ddisgwyl oddi wrthynt. Y mae Siarses yr Esgobion i'r Off- eiriaid, yn neillduol y blynyddoedd diweddaf hyn, yn cael sylw mwy nag arferol, yn gystal a darlleniad tra chyffredinol ; oblegid ystyrir hwynt fel yr unig safon priodol wrth ba rai yr ydym ni i bwyso a mesur yr egwyddorion llywodraethol wrth ba rai y mae y gyfundraeth eg- lwysig i gael ei gweithio allan yn y gwahanolEsgobaethau. YmaeSiars Arglwydd Esgob Tý-Ddewi yu awr ger bron y wlad, sef ei Siars gyntaf i'r Offeiriaid wedi ei bennodiad a'i gyssegriad i'r Esgobaeth, yr hon yn ddiau sydd wedi cael darlleniad helaeth, ac ynghylch yr hon y mae gwahanol farnau, fel y mae yn dig- wyddo yn ddieithriad i bob cyfan- soddiadau, yn yr oes gyforiog hon o farnau a syniadau. Y mae yn achos o ddywenydd a llonder meddwl neillduol i bawb Eglwyswyr, bod ei Arglwyddiaeth, yn y Siars dan sylw, yn dangos y pryder mwyaf dros yr Eglwys, yn hiraethlon ara ei Uwydd- iant, yn awyddus dros ei heffeithiol- deb, a chwennychiad ei galon am ei gweled yn torri allan ar y llaw dde- heu ac ar y llaw aswy, i wrteithio yr anialwch, ac i etifeddu yr etif- eddiaethau anghyfanneddol. Y mae