Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 86. AWST, 1842. Cyf. VII. MEÜDIANNÜ Y WLAD. Hyspys ydyw maì o Juda y cyf- ododd ein Harglwydd ni, ac iddo hanu o'r genedl a neillduodd Duw iddo ei hun er bore yr oesoedd ; a thyma yr achos yn ddiau bod dar- llenwyr yr Ysgrythyr Làn, ym mhob oes a chenhedlaeth, mor ddyddorol yn eu hamgylchiadau, eu heìyntion, eu llwyddiant, a'u haflwyddiant, ynghyd â phobpeth a berthyna idd- ynt, fel cenedl a gymmerwyd mor neillduol dan warcheidwadaeth y Duw mawr. Yr ydym yn darllen am ddyfodiadAbraham o Ur yCalde- aid a'i fynediad dros yr Euphrates, gyda theimladau mwy bywiog o lawer nag y darllenwn hanes Alex- ander Fawr yn hwylio ei luoedd dros yr Hellespont, i orchfygu a buddugoliaethu ar Asia. Yr ydym yn casglu brasach tywysennau o lawer wrth gynniwair ar ol Moses yn ei ffbedigaeth o'r Aipht i dir Midian, yn ei adroddiad o'i weled- jgaeth ryfeddol yn Horeb, yn ei ymddangosiad fel prophwyd ger bron Pharaoh, yn ei wyrthiau mawr ac ofnadwy yn nhir Ham, yn ei ar- weinyddiaeth o luoedd Israel drwy ddyfnderau y Mör Coch," ac yn ei dderbyniad o'r deng ngair deddf yng nghanol y tembestloedd ar Sinai, Da phe darllenem gyfrolau o banesìon mawrion, pendeíîgion, a gwroniajd yr oesau. Llawer gwaith 2E y diarfogasom y dymhestl o'i har- ; swydau, ac y cawsom wledd feddyt- j iawl pan gurid ni gan y ddryccin, j ac y gwannychid ni gan y gwlawog- j ydd, wrth ddilyn camrau Jacob i | Padan-Aram,gweled rhagluniaethau j Duw yn gwenu arno yn nhiroedd y dwyrain, ei ganfod yn orchfygwr gyda Duw wrth yr afon, ac yn ei holl helyntoedd, er yn gynnefin â gofidiau, yn cael ei ddal gan gad- ernid y cyfammod a wnaed âg Abra- ham ei dad, ac yn cael marw yng nghanol ei blant, a haul y nef yn tywynnu ar ei enaid. Nid ydynt y mwynderau a deimlwn wrth haneg buddugoliaeth Alexander ar Darius a lluoedd Persia ar lann y Granicus ond dim,ac y mae yr holl deimladau yn diflannu fel tarth, yn ymyl rhwyg- iad yr Iorddonen fawr, pan ydoedd ei dyfroedd dros ei cheulannau, er gwneuthur fFordd rydd i anwyliaid gogoniant fyned i mewn i'w ìietif- eddiaeth ! Maes helaeth ydyw cyn- niweirfeydd y llwythau etholedig o'r Aipht i Ganaan; oblegid yr ydym yn gweîed diysgogrwydd cŷf- ammod Duw, cadernid ei addewid- ion, ynghyd â sicrwydd ei fwriadau, a'r holl drefn fawr yn un gadwyn yn troi olwynion peiriant rhagluniaeth yn y fath fodd, nes yr ydoedd pob peth yn cydweithredu er eu dwyn adref i Ganaan, er meddiannu ýr