Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 84. MEHEFIN, 1842. Cyf. VII. Y FRAINT FAWR. " Yr Arglwydd a gyfrif pan ys- grifenno y bobl, eni hwn yno." PSALMYDD. " Can's d'wedir hyn am Sion ber, Fe aned llawer ynddi, Nid ambell un : can's swccwr da Yw Duw Gorucha' iddi." Abch. Prys. Yr oedd Babilon a'i thyrau yn yniddyrchu yn fawreddog tua'r nef ar lennydd yr Euphrates, ar was- tadedd Caldea; yr oedd Tyrus, yn amlder ei chyfoeth ac yng ngogon- iant ei gwychder, yn eistedd fel brenhines yng nghanol y môr ; ac y mae dinasoedd yn bresennol, yng ngwahanol wledydd y ddaear, mor brydferth ag y mae yn ddichonadwy i gelfyddyd ddynol eu gwneuthur; ond wedi edrych ar flodau y dwyr- ain, rhyfeddodau y gogledd, pryd- ferthwch y deheu, ac ehangder y gorllewin, rhaid cyfaddef mai teg- wch bro, ac mai Uawenydd yr holl ddaear, yw Mynydd Sîon, yn ys- tlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr! Y mae rhyfeddodau natur yn lliosog iawn, ac yn ddigon i lyngcn y meddyliau ehangaf mewn syndod tragywyddol; nid oes gen- nym ond tewi, pan welom y gor- uchion mawrion awyrol yn chwareu yn yr eithafion ; dim ond synnu, pan welom y mellt llewyrchiol, tanbaid, yn gwau yn frawychus drwy eu gilydd; a dim ond ymostwng i'r ìlwch, pan glywom ruadau ei fag- nelau Ef yn tyrfu yn y cymmylau, ac yn bygwth dinystr i'r drefn bre- sennol ar natur! Pa beth sydd gennym ni i'w ddywedyd, pan wel- om y môr yn berwi yn ei wely gan rym yr awelon, a'r tonnau digofus yn ymluchio yn erbyn y creigiau, gan fygwth y ddaear âg ail ddiluw ! Ond er mor rhyfeddoí ydyw llyfr natur yn ei bennodau a'i ddalen- nau, y mae yn myned i'r cysgodion a than y mantellau, pan gyfeiriom ein golygon, a phan dremiom ar yr Iechydwriaeth fawr a gafwyd drwy y Cyfryngwr, yr hon sydd wedi ei cbynllunio gan amryw ddoethineb Duw, ac wedi ei dwyn oddi amgylch drwy chwys, llefain cryf, a dagrau y Gwr a fu yn angeu i angeu, ac yn drangc tragywyddol i'r bedd ! Aia «Rhyfeddahydalled, Fy enaid trist, Uchder a dymder maith, Marwolaeth Crist;" oblegid y mae y nefoedd a'i hoü ryfeddodion i ddarfod fel mwg, a'r ddaear ehangfaith a'i holl amryw- iaethau i heneiddio fel dilledyn, a'i phreswylwyr o nifer y daü i farw; ond cyfammod iechydwriaeth Duw,