Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 73. GORPHENHAF, 1841. Cyf. VI. CYN ARCH LYW. DOSP. JOHN DAYIS, (BRYCHAN.) Anaml y rhoddir bywgraphiadau dynion tra y cyfanneddant y fuch- edd hon ; ond wedi i enwogion gael eu rhestru yn llechres y marwolion, cymmerir yr ysgrifell mewn llaw, er gwneuthur cof-adeiliau iddynt, a throsglwyddo eu henwogrwydd i'r oesau dyfodadwy. Eithr y mae yn digwyddo ar brydiau, pan fyddo rhyw gymmeriadau neillduol wedi enwogi eu hunain, ac wedi dyfod i sylw yn eu perthynasau â gwahanol Sefydîiadau, bod bywgraphiadau yn cael eu gwneuthur o honynt yn j eu bywydau, a hynny er cyflweni i awydd eu cyfeillion, ac eraill a j glywsant son am danynt. Y mae | yn wybodus i'n darllenwyr am Iwyddiant y Sefydliad Odyddawl yn y Dywysogaeth yn y dyddiau pre- sennol, am ei egwyddorion dyngar- oi, a'i fod yn cofleidio pob iaith a j chenedl o ddynion a gyd-ymffurfiant i â'i reolau; ac yn wyneb gorsaf uchel ac anrhydeddus Odyddiaeth yn ein plith, yr ydym yn ystyried ein hunain yn rhwym mewn dyled- swydd at y Cyfundeb i roddi bras- ddarlun o gyriniweirfa Brychan, yn neillduol yn ei berthynas âg Od- yddiaeth yn Neheudir Cymru. Ganed ein cyfaill Brychan, yng Nghantref Bualit, swydd Frychein- iog, tua diwedd y flwyddyn 1785; ac felly y mae yn awr ynghylch un 2 A flwydd ar bumtheg a deugain oed, a'i ddyddiau goreu wedi myned heibio, a henaint ac afiechyd yn cyd-ddyfod ym mlaen er dymchwel- yd ei babell, a'i ymlid i ffbrdd yr holl ddaear. Gyda golwg ar ddydd- iau ieuengaidd ein cyfaill, nid oes gennym ddim i'w ddywedyd, ond ymddengys na chafodd fanteision dysgeidiaeth ysgolion, eithr gwthio ei ffordd ei hun ym mlaen, a hynny drwy gynnorthwyon llyfrau; ac oblegid ehangder ei enaid, a hel- aethrwydd ei amgyffredion, cyn- hyddodd mewn gwybodau cyffred- inol, a chyrhaeddodd orsaf mor uchel mewn lleenyddiaeth Gymreig, fel mai hawddach yw eiddigeddu wrth Brychan na'i meddiannau. Y mae ei ddoniau barddonawl wedi cael eu sefydlu, ac wedi cael eu cydnabod gan feirdd a beiruiaid pennaf y Dywysogaeth ; ac y mae y tlysau a ddyfarnwyd iddo am ei bryddestion a'i draethodau yn dra lliosog. Cydnabyddwyd ei wybodau barddonawl a lleenyddawl, yn gys- tal ag uniondeb ei egwyddor, gan wahanol Gymdeithasau Cymroaidd, drwy ei bennodi mor fynych yn Farnydd cyfansoddiadau cystadleu- edig, ac y mae yn un o'r Barnwyr dros Gymreigyddion y Fenni. Yng ngweinyddiad rhagluniaeth y Goruchaf Lywydd, arweiniwyd