Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2S6 HANESION, &c. o hynny allan, o ddirmyg, yn cadw allwedd y Capeí, er rhwystro neb arall i wneud da i eneidiau ynddo: a bod yn well gennych dalu rhent, fel y gwnewch, am dano, na gà- dael i eraill a allent gael gwrandawyr i bregethu ynddo ? CWRT T CADNÒ. Ryw nifer o fisoedd yn ol, cysgodd dyn riieun lŷtafarn.ar uno fynyddoedd y gweith- iau, un noswaith.a chollwyd ef, fel nad oedd un hanes o un man i'w gael am dano. Ei berthynasau yn flin ac yn ofidus, a an- fonasar.t at yr Oracl i Gwit y Çadno, i gael rhyw hysbysiaeth yn ei gylch. Nid oesdim gwybodaeth pa un a agorwyd y llyfr a'r clo egwyd neu beidio, ond dangosodd Mr. Har- ris ddeheurwydd anghyffredin wrth dynnu ei Horoscopes, ac awgrymodd fod dyn wedi Cael ei ladd yn y tŷ tafarn. ac i'r corph gael ei daflu i hen winch ydoedd gerllaw. Wedi myned adref, aed at y gorchwyl o ddihys- byddu y winch,yr hon ydoedd yn llawn dwfr, yr hyn a wnaed wedi trafferth a thraul fawr; ond nid oedd yno yr un corph i'w gael. Aed yr ail waith at yt Oracl, a dywedodd Mr. Harris, mai mewn winch arall yr ydoedd y corph, yr hon hithau a ddihysbyddwjd, ond ni chaed uncorph. A'r peth agef ydyw, wedi i'r bobl fyned i ynghylch hanner can punt o draul i gyfodi y dwfr o'r winches, pwy darawai imewn i'r henannedd yn iach adianaf, ond y dyn ei hun! Ond gan y myn dynion fod yn flyliaid, nid oes ond gadael iifdynt ymgynghori â Mr. Harris, Cwrt y Cadno, a myned i draul ar bwys ei gelwydd a'i dwyll. Y mae yn waeth na lleidr ei fod yn twyllo dynion fél y raae ; ac y mae eisiau tost i'w gael i afael y gyfraith, a rhoddi tread-mill iddo am ycbydig o flsoedd, fel y gwneir a'i gyd-dwyllwyr yn Lloegr. LLOFRUDD. Yn Mrawdlys Norwich.cafwyd JohnBan- dlesome yn euog o lofruddio ei wraig, â'r hon y priododd yn ddirgelaidd. Ni wyddai perthynasau nachyfeilliony wraig am y bri- odas hyd o fewn i ychydig ddyddiau iddynt gael gafaelyn y corph.mewnllyn yn gyfagos i dŷ ei thad, ac arwyddion amlwg ei bod wedj cael ei lladd. Ymddengys bod y d> n truenus wedi ymserchu mewn rhyw fenyw arall, a'i fod wedi amcanu ei phriodi. Ar hwyr yr 17 o Fehefin, aeth i ymweled â*i wraig i dŷ eilbad; ac wedi i'r teulu fyned i'r gwely, meddylir iddo ei tharo i annheimladrwydd yn yml y llyn, a'i thatìu yno. Rhoir rheffyn cywarch, y mae yn debyg am ei wddf. ESGOBION CYMREIG. Rhyfedd! a Rhyfedd byth ! Y mae rhai Oftèiriaid yn Esgobaeth Ty Ddewi yn cyf- iawnhau Arglwydd Melbourne yn ei wailh yn pennodi Sais i'r Esgobaeth hon! Ond deafler mai Offeiriaid ydynt na chawsent fywioliaethau yn yr esgobaeth, pe buasai yn cael ei Uywyddo gan EsgobCymreig; oble- gid y gwirionedd ydyw, ni allantna darllen y gwasanaeth, na phregethu yn yr iaith Gymraeg. Y noaent yo gYwilyddus ac yn warthus i'w clywed ! Y mae y dosparth hwn yn llawenbau yn narostyngiad y ge- nedl; ond byddai yn fwy Cristionogol yn- ddynt fyned i Loegr, na gweinyddu mewu eglwysi gweigion, oblegid y mae eu hauwy- bodaeth o'r iaith wedi gyrru cynnulleidfaoedd lliosog a gawsant ar ddìfangcoll. Sefydi- wyd Cristionogaeih ym Mhrydain yn y can- rif cyntaf; yn y pedwerydd canrif yr oedd tri o Esgobion Prydeinig yn nghyngor Arles yn Ftraingc, yn y tìwyddyn314, ac y mae eu henwau wrth actau y Cynghor. Ymselydl- odd y Sacsoniaid yn Lloegr yn y pummed canrif. ac a lwyddasant «edi ymdrech o gant a hanner o flynyddoedd i ymlid j^.Cymry i'r tu yma'r Hafren a Dyfrdwy. Yn nechreuadi y seithfi d canrif, cynnygiodd Awstin, Arch- esgob Canterbnry ddwyn yr Eglwys Gym- reig, ei Harchesgob, a'i Hesgobion, dan ei lywodraeth ei hun, ond atìwyddodd. Pen- derfynwyd yn awr i ymdrechu gwthio estron- iaid i'r jE-gobaethau Cynneig; ac yn y flwyddyn 872, pan farw Éii.ion, Esgob Ty Ddewi, gwihiwyd Hubert, Sais, yn ei le. Yn y flwyddyn 1089, difeddiannwyd Joseph, Esgob Ty Ddewi, gan y Brenhin WillÌAm, ac estron o'r enw Wilfrid a osodwyd yn ei le. Gwoaed yr un peth yn amser Harri I., pryd y collodd yr Esgobaeth ei hawliau. Dan deyrnasiad Harri yr Ail, darfu i Arch- esgob Canterbury drawsleddiannu yr hawl o gyssegru Esgobion i esgobaethau Bangor a Llaneiwy, yr hyn a wrthwynebwyd gan y Cymry, ac a bennodasant Esgobion o'u plith eu hunain. Bu pethau f'el hyn byd amser Harri y Seithfed, pryd, oblegid ei fod o waedoliaeth Gymreig, darfu i'r Eglwys Gymreig yn anewyllysgar uluddhau i l»en- nodiadau Canterbury. Yo amser y Fren- hines Elizabeth, symudwyd yr Esgobion o dafodiaith estionol o Gymru. Yn yr ail flwyddyno deymasiad Elizabeth, pennotìodd Richard Davies, i fod yn Esgob Llanelwy. Yr oedd y Prelad hwn yn enwog ym mhob ystyr, a bydd y Dywysogaeth hvlh dan rwymau iddo. Cyssegrwyd naw o Esgobion Cymreig dan deyrnasiad Elizabeth. Dan deyrnasiad Iago 1., Siarl I., Siarl II., lago II., a WlUiam a Mary, gwnaed un ar bum- theg o Esgobion Cymreig. Anne, dim ond un—John Evans, Bangor. Sior I., un—John Wynne, Llanelwy. Sior II., dau—John Harris, Llandaf— Richard Trevor, Ty Ddewi. Sior 111., dim un. Sior IV., dim un. William LV., dim un. Victoria, wedi gommedd. Y mae yn llawn bryd i ni ddihuno.a chyn- Ilunio mesurau tuag at gael adferiad o'n hawliau a'n hiawnderau. BRAWOLYSOEDD. Morganwffi Cínnaliwyd Brawdlys MoTganwg yn Nghaerdydd, gan yr Anrhydeddus Syr. Tho- mas Erskine, pryd y prolẃyd y carcharorion canlynol:—