Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 62. AWST, 1840. Cyf. V. CREDO YR APOSTOLION.—fParM o tu dal. 201J Credaf yn yr Yspryd Glân.— Y mae Duw yn Yspryd, ac yn sanctaidd ; ond y mae yr £nw hwn, a'i gymmcryd yn bersonol, yn per- thyn yn ncillduol i'r Trydydd Per- son, yr hwn sydd yn deillio oddiwrth y Tad a'r Mab, mewn ffordd nas gellir dim ci datgan na'i hamgyff- red. Y mae yn sanctaidd ynddo ei hun, ac achos ac Awdwr ydyw o bob sancteiddrwydd ynom ni. Nid yw yn fuddiol nac yn ddiogel i ni ddyrysu ein meddyliau mewn ymrysonau ynghylch y dirgelwch hwn ; ond y mae yn angenrheidiol i ni adnabod, cyfaddef, a chredu yn yr Yspryd Glân. Efe yw yr hwn ym mha un & thrwy ba un yr ydym yn credu, Nis gallwn adnabod Duw, na phethau Duw, ond trwy Yspryd puw, (1 Cor. 2. 1.) na dy- wedyd bod Iesu yn Dduw ond trwy yr un Yspryd, (] Cor. 12. 3.) Yr ydym yn gwybod fod y Drindod Sanctaidd yn cyd-weithio yng ngwaith ein iechydwriaeth: y mae y Tad wedi rhoddi ei Fab, ac y mae y Mab wedi anfon ei Yspryd, ac y mae yr Yspryd yn rhoddi ffydd i in, yr hon sydd yn ein huno â'r Mab, a thrwyddo ef â'r Tad. Fe ordein- iodd y Tad ein prynedigaeth, fe'i pwrcaswyd gan y Mab, ac y mae yr Yspryd Glân yn ei datguddio ac yn e» chymhwyso. 2E Yr Eglwys Lân Gatholig.—Y mae y rhelyw o'r erthyglau yn y Credo yn cynnwys ffrwyth y gwaith mawr hwnnw, danfoniad Mab Duw yn y cnawd, ei ddioddefaint a'i far- wolaeth, &c. Ie, bwriad goruchel Duw yn y gwaith mawr arall, y gre- àdigaeth gyntaf, oedd hyn, sef prynu a chreu dyn o'r newydd. Fe wnaeth y byd, fel o hono y gallasai wneuthur y byd etholedig hwn, a elwir ei Eglwys. Fe gysgodd y Mab hwn hun farwol ar y groes, fel allan o'i ystlys y gallesid ffurfio ei ddyweddi, yr hon yw yr Eglwys. Y mae yr Yspryd Glân, wrth ymsym- mud ar cneidiau dynion yn eu tro- edigaeth, yn bwriadu yr un peth, sef casgliad a pherffeithiad ei Eg- Iwys. Efe yw anadl bywyd, sydd yn anadlu ar y creaduriaid newydd hyn, sydd yn gwneuthur i fynu y gymdeithas hon. Felly ynte, y mae hyn yn gymmaint a dywedyd, Yr wyf yn ddiau yn credu, fod gan Dduw y fath fwriad wrth wneuthur y byd, ac wrth ddanfon ei Fab iddo, a hwynthwy ill dau wrth ddanfon yr Yspryd, a'r Yspryd yn ei weith- rediadau,i ffurfinEglwys sanctaidd, rhyw nifer a fyddai yn ei wasan- aethu yma, ac yn ei fwynhau yn nhragywyddoldeb; ac yr wyf yn credu nas gall Duw ddim syrthio yn fyr o'i amcan, nad yw y Drindod