Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 60. MEHEFIN, 1840. Cyf. V. CREDO YR APOSTOLION.—(Parhad o tu dal. 137.) A ddisgynnodd i uffern.—Nid ydym i ddeall, wrth y geiriau hyn, i Grist ddisgyn i wlad y daraedig- îon. Fe ddichon eu bod yn arwyddo preswylfod a pharhad corph Crist yn y bedd. 0 leiaf, y maent yn unol â Gair Duw,—" Canys ni ad- ew fy enaid yn uffern, ac ni oddefi i'th Sanct weledi llvgredigaeth/" Psalra 16. 10. Gwel Áct. 2. 27. MYFYRIADAU. 1. Pethau mawrion yw y rhai hyn sydd yn cael eu llefaru ara Iesu Grist, ei enedigaeth, a'i ddioddef- aint; ond y mwyaf i gyd ydyw ein hannedwyddwch, os nad oes rhan gennym ynddynt. Clywed am dan- ynt yn unig, a mwynhau dira o honynt, peth truenus o'r mwyaf yw hynny; ac felly y mae trwy ein hanghrediniaeth. Pe byddai mor gyffredin i gredu ynddo, ag adrodd y geiriau hyn, neu ddyfod i'r Eg- lwys i glywed yr efengyl yn cael ei phregethu, yna fe fyddai gan bawb reswm da i'w roddi drostynt eu hun- ain; ond coeliwch fi, y mae credu yn iawn yn hollol wahanol i hynný. Fy mrodyr, na thwyllwch eich hun- ain. Ni wna y ffydd gyffrediuol hynny y tro; yr ydych, er hynny i Syd, yn anghredinwyr yng ngolwg Crist; ac os ydyw felly, er yr holl olud o gysur sydd ynddo, nis gell- wch chwi dderbyn dim oddi wrtho. Gair trist y mae ef yn ddywedyd, Oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pech- odau. Ioan 8. 24. Fel pe byddai yn dywedyd, Er i mi farw dros eich pechodau, etto, os chwi a barhewch mewn annuwioldeb ac anghrediu- iaeth,ni wna hynny ddim Iles i chwi, chwi a fyddwch feirw yn eich pech- odau er hynny i gyd. Y ffydd sydd yn anwylo Crist i'r enaid, yn ei uno âg ef, ac yn gwneuthur Crist ac yntau yn un, ydyw y ffydd ag sydd yn gwneuthur y cwbl ag sydd yn eiddo Crist yn eiddo iddynt hwy. Yna, ni a allwn gasglu yn iawn, Crist a ddioddefodd, ám hynny ni chaf fi ddioddef dim. Fel y dywed- odd wrth y rhai hynny a ddaeth i'w ddal ef, " Os myfi yr ydych yn ei, geisio, gadewch i'r rhai hyn fyned ymaith," felly wrth y gyfraith a chyfiawnder y mae yn dywedyd, " Gan eich bod wedi fy ngheisio a'm dal i, a gwneuthur i mi ddioddef, gadewch i'r rhai hyn fyned yn rhydd, y rhai sydd trwy ffydd yn cymmeryd gafael ynnof. Os oes gennych ddim i'w ddywedyd wrth- ynt hwy, yr wyf fi i atteb drostynt, ì'e, yr wyf wedi gwneuthur hynny eisioes." 2. Chwychwi, y sawl sydd yn credu ac yo byw trwy y farwolaeth